A hithau newydd ryddhau ei EP cyntaf yn ddiweddar, mae Rhiannon O’Connor wedi rhyddhau ei sengl Nadolig.
‘Un Dolig ‘To’ ydy enw’r cynnig Nadoligaidd newydd ganddi, sy’n ddilyniant i’w EP, ‘Awen’, a ryddhawyd fis Hydref eleni.
Gan droedio’n ofalus unwaith eto rhwng byw’r presennol a hiraethu am rywbeth a fu, mae Rhiannon wedi crefftio cân sydd yn dathlu’r Nadolig y mae hi a’i theulu yn ei brofi, tra’n cofio am ei phlentyndod ei hun a’r wynebau sydd yn awr ar goll o gwmpas y bwrdd.
Gan adeiladu ar sŵn ei EP cyntaf, mae Rhiannon yn cyflwyno sŵn mwy gwerinol yn ‘Un Dolig ‘To’, gan lenwi’r lle gyda naws parti bach o gwmpas y tân.
Mae’r fideo i ‘Un Dolig ‘To’ yn cynnwys deunydd wedi’i ffeindio o ddathliadau Nadolig a fu, yn llawn o wynebau llawn cariad a chymeriad.