Mae Rhiannon O’Connor wedi rhyddhau ei EP cyntaf, ‘Galwad’.
Fflach Cymunedol sy’n rhyddhau’r record fer a dywed y label eu bod yn gyffrous i gyhoeddi EP cyntaf gan un o leisiau mwyaf unigryw Cymru ar hyn o bryd.
Yn gymysgedd o straeon personol am fywyd ar fferm ddefaid yng Nghwrt-y-Cadno, arsylwadau craff ar dreiglad amser ac ar fanylion pwysig byd natur o’i chwmpas, mae ‘Galwad’ yn agor drws i gyfansoddi celfydd a pherfformiad medrus Rhiannon.
Ar ôl derbyn canmoliaeth gref ar gyfres gyntaf Y Llais ar S4C, mae blwyddyn Rhiannon wedi mynd o nerth i nerth, yn gigio dros Dde Orllewin Cymru, gan gefnogi Al Lewis a The Gentle Good, a threfnu ei gŵyl ei hun, Nagsfest.
Gyda’i chreadigrwydd yn tarddu ac yn ffynnu o’i chynefin a’i bywyd yn ffermio gyda’i theulu, mae’r caneuon yn onest ac yn amrwd, yn trafod ei pherthynas gyda’i thad trwy salwch, optimistiaeth y Gwanwyn gyda dychweliad y Gwcw, a’i siwrne ei hun i ddarganfod ei llais ymysg y prysurdeb.
Dathliad o’r bywyd hapus
Mae ‘Galwad’ yn mesur blwyddyn ar odre’r mynydd, yn perthnasu’r personol gyda mawredd byd natur. Wedi’i recordio dros dridiau yn Stiwdio Sain gyda’r cynhyrchydd Aled Wyn Hughes (Cowbois Rhos Botwnnog), mae’n frith gyda synau natur, alawon bachog, a chyd-chwarae medrus rhwng Rhiannon a’i chyd-gerddorion.
Mae’r EP yn cynnwys cyfraniadau gan Gwilym Bowen Rhys, Gwenan Gibbard ac Elin Taylor ynghyd a recordiadau o synau’r adar sy’n gorws i gyfansoddi Rhiannon yng Nghwrt-y-Cadno.
Daw’r teitl ‘Galwad’ o’r lleisiau naturiol yma sy’n gefndir i fywyd Rhiannon, ynghyd â lleisiau ei gŵr a’i bechgyn wrth iddynt fugeilio’r mynyddoedd o’u cwmpas, wrth gyfeirio at y blynyddoedd diweddar ble mae Rhiannon wedi darganfod ei lle yn y byd a’i dawn am gyfansoddi a pherfformio.
Mae’r cywaith yn ddathliad o’r bywyd hapus y mae hi a’i theulu wedi’i greu wrth barhau i archwilio ei lle hi a lle ei llais o fewn y byd bach hwnnw a’r byd mawr tu hwnt i’r mynydd.
Mae ‘Galwad’ ar gael yn ddigidol ac ar CD trwy label Fflach Cymunedol.
Roedd lansiad ar gyfer yr EP yn Neuadd y Coroniad, Pumsaint ar nos Sadwrn 18 Hydref a bydd Rhiannon yn mynd ati i grwydro De Orllewin Cymru yn teithio’r caneuon.
Mae fideo i gyd-fynd â’r sengl ‘Awen’, wedi’i gyfarwyddo gan Lily Tiger, yn cael ei ryddhau trwy Gronfa Fideos PYST x S4C yn fuan.
Dyma’r fideo: