‘Cawl’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf sydd wedi’i rhyddhau gan Dafydd Owain.
Mae’r sengl newydd allan ers dydd Gwener 12 Medi ar label recordiau I Ka Ching, a dyma’r ail drac i Dafydd ryddhau o’i albwm newydd.
Yr hyn a geir yma, ac yn wir felly fel llinyn trwy gydol yr ail albwm yw ymgais greadigol i fynegi rhai o brofiadau dwysaf bywyd.
Yn ei ffordd ddihafal ei hun, mae Dafydd yn gallu cynnig hyn i ni trwy ddefnyddio ieithwedd a chyflwyniad cerddorol syml ond ingol.
Dyma’r ail flas o ddarpar albwm Dafydd, ‘Ymarfer Byw’ a fydd yn cael ei rhyddhau ar 8 Hydref, 2025.
Mae ‘Cawl’ yn ddilyniant i ‘Leo’ a ryddhawyd ganol mis Awst, ac sydd wedi cael ymateb ardderchog o sawl cyfeiriad, ac wedi ei chwarae’n rheolaidd ar y tonfeddi.
Bu i’w albwm cyntaf, ‘Uwch Dros y Pysgod’ dderbyn clod aruthrol gan gynnwys enwebiad am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig a gwobr Albwm Gymraeg y Flwyddyn.
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Cawl’: