Mae’r ddeuawad sy’n cynnal fflam reggae Cymraeg ar hyn o bryd, Morgan Elwy a Pen Dub, unwaith eto wedi cydweithio i greu sengl newydd.
Recordiau Bryn Rock sydd wedi rhyddhau’r trac ‘Awr ar ôl Awr’ ers dydd Gwener diwethaf, 18 Gorffennaf.
Mae Morgan Elwy a Pen Dub yn wynebau cyfarwydd – naill tu ôl i’r decs ac ar lwyfannau gwyliau cerddorol Cymru – ac yma, maent yn cyflwyno rhythm newydd sydd yn asio synau roc reggae clasurol gyda geiriau sy’n dathlu diwylliant ‘Soundsystem’ tanddaearol Cymru.
Mae’r ddau yn gyfarwydd iawn â gweithio gyda’u gilydd, a daw’r sengl ddiweddaraf yn dilyn rhyddhau’r sengl ddwbl ‘Coroni Cariad’ a ‘Mwg Drwg’ nôl ym mis Tachwedd 2024.