Lleucu Non -yn rhyddhau sengl gyntaf gyda Lwcus T

Mae label recordiau Lwcus T wedi croesawu’r artist newydd sbon i’r label, gan ryddhau ei sengl gyntaf. 

Lleucu Non ydy’r artist dan sylw, ac mae artist yn ddisgrifiad priodol gan ei bod nid yn unig yn gerddor, ond hefyd yn animeiddiwr adnabyddus. 

‘Llygaid Cwrw’ ydy enw’r sengl newydd ganddi sydd allan ers dydd Gwener 18 Gorffennaf. 

Gyda’i harddull nostalgaidd a’i gweledigaeth DIY nodedig, mae Lleucu wedi pobi cân bop melys a hafaidd sy’n cadarnhau ei statws fel un o leisiau ifanc mwyaf diddorol Cymru. 

Daw’r sengl ar Lwcus T ar ôl i Lleucu rhyddhau ei sengl gyntaf, ‘Dwi ar Gau’ ar label UNTRO llynedd.

Mae’r sengl wedi ei baru gyda fideo animeiddiad gan Lleucu ei hun, sy’n arddangos ei harddull crefftus unigryw a’i ffordd chwareus o adrodd straeon.