Sara Owen ydy’r artist diweddaraf o gyfres deledu Y Llais ar S4C i ryddhau cynnyrch newydd ar label Recordiau Côsh.
‘Symud Ymlaen’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ganddi ers dydd Gwener 10 Hydref.
Er bod Sara Owen wedi bod yn canu ers blynyddoedd yn ei milltir sgwâr, daeth i sylw cynulleidfa ehangach yn gynharach eleni wrth gyrraedd rownd derfynol Y Llais 2025 fel aelod o dîm Bryn Terfel.
Roedd Yws Gwynedd, perchennog Recordiau Côsh ac un o’r hyfforddwyr ar y gyfres wrth gwrs, ymysg y rheiny a sylwodd ar ei thalent, ac er na ddewisodd Sara ef fel ei mentor, roedd hi’n un o’i ffefrynnau drwy gydol y gystadleuaeth.
Mae’r haf wedi bod yn gyfnod prysur i’r gantores, gan berfformio mewn amryw o wyliau ledled Cymru yn sgil ei llwyddiant ar y rhaglen. Nawr, mae hi’n barod i gamu ymlaen gyda’i chân newydd – ‘Symud Ymlaen’ – sy’n nodi dechrau cyfnod newydd iddi fel artist ar label Recordiau Côsh.
Er i Sara gyfansoddi’r gân dros ddegawd yn ôl bellach, mae geiriau’r gytgan yn teimlo’n fwy perthnasol rŵan nag erioed.