Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi datgelu manylion sioe arbennig fydd yn talu teyrnged i’r band o Aberteifi, Ail Symudiad, wrth i’r ŵyl ymweld â’r ardal honno ym mis Awst 2026.
‘Sefyll ar y Sgwâr’ ydy enw’r cyngerdd sy’n cael ei disgrifio fel Soe Gerdd Jiwcbocs yn dathlu etifeddiaeth Ail Symudiad.
Trwy gyfuno pŵer corawl, stori newydd a thiwns bachog Ail Symudiad, bydd Sefyll ar y Sgwâr yn un o uchafbwyntiau artistig ac emosiynol Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las. Mae’r cynhyrchiad arbennig yn gyfle i ailgysylltu â cherddoriaeth sy’n rhan annatod o’n hunaniaeth ddiwylliannol, a’i chyflwyno i gynulleidfa newydd.
Bydd prosiect côr Eisteddfod 2026 yn dod â sioe gerdd jiwcbocs newydd sbon i’r llwyfan, wedi’i seilio ar ganeuon Ail Symudiad, gyda sgript gan Nico Dafydd a Mari Elen. Cynhelir y perfformiadau ym Mhafiliwn yr Eisteddfod ar nos Sadwrn, 1 Awst, a nos Lun, 3 Awst.
Mae’r cynhyrchiad yn gyfle unigryw i’r gymuned leol a Chymru gyfan ddathlu etifeddiaeth eiconig Richard ac Wyn Jones (Fflach) ac Ail Symudiad – un o fandiau mwyaf dylanwadol y sin roc Gymraeg. Trwy eu geiriau craff a’u harmonïau bachog, llwyddodd y grŵp i greu caneuon a drodd yn glasuron, ac mae eu dylanwad yn parhau’n fyw hyd heddiw. Roedd y ddau yn feibion eu milltir sgwâr, ac mae nifer o’u caneuon yn sôn yn uniongyrchol am yr ardal – sef ardal Eisteddfod y Garreg Las eleni.
Daw enw’r sioe o albwm cyntaf y grŵp, gan dalu teyrnged i’r gymysgedd unigryw o ddyfeisgarwch, hiwmor a gonestrwydd creadigol a nodweddai gwaith Richard ac Wyn – rhinweddau sy’n parhau i ysbrydoli cenedlaethau o gerddorion.
Siwan Llynor fydd yn cyfarwyddo’r sioe, gyda Steffan Rhys Williams yn Gyfarwyddwr Cerdd ac yn arwain ar y trefniannau cerddorol. Mae’r tîm corawl – Dan Edwards-Phillips, Trystan Phillips, Einir Dafydd, Catrin Davies a Catrin Morris – yn dod â thalentau corawl o ddalgylch eang yr Eisteddfod ynghyd.
Mae’r sioe’n mynd â ni’n ôl i’r 1950au, i dref glan-môr yng Ngorllewin Cymru. Mewn stori sy’n amlygu tensiwn rhwng uchelgais a dyletswydd teuluol, a chariad at yr ardal yn erbyn datblygiad masnachol, mae Sefyll ar y Sgwâr yn adrodd hanes sy’n siŵr o daro deuddeg gyda chynulleidfaoedd o bob oed.
“Cefais fy magu yng nghanol sŵn cerddoriaeth Richard ac Wyn – roedd caneuon Ail Symudiad yn rhan o fy nghartref, fy nheulu a’m cymuned” meddai Nico Dafydd, un o’r sgriptwyr ac un o’r bobl sydd wedi bod yn gyfrifol am sefydlu Fflach Cymunedol er mwyn parhau â’r gwaith a wnaeth gan Richard a Wyn gyda’u label, Fflach.
“Mae’n fraint a her braf cael cyfle i greu stori newydd sy’n sefyll ochr yn ochr â’r alawon a’r geiriau sy’n golygu cymaint i ni fel ardal. Mae Sefyll ar y Sgwâr yn deyrnged, ond hefyd yn wahoddiad i gynulleidfaoedd newydd ddarganfod y trysor mawr yma o’n diwylliant.”
Bydd Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn cael ei chynnal yn Llantwd, gogledd Sir Benfro, o 1–8 Awst 2026.