Mae Sywel Nyw, sef prosiect diweddaraf y cerddor Lewys Wyn, yn paratoi i ryddhau sengl ac albwm newydd dros yr wythnosau nesaf.
‘Teimla’r Gwres’ ydy enw’r sengl newydd ganddo sydd allan ddydd Gwener yma, 2 Mai, ac yn ei weld yn cyd-weithio gyda Mared.
Yna, yn dynn ar sodlau’r sengl, bydd ei albwm newydd ‘Hapusrwydd yw Bywyd’ yn dilyn ar 16 Mai.
Daw’r cynnyrch diweddaraf ar ôl llwyddiant ei albwm cyntaf ‘Deuddeg’ a hawliodd deitl Albwm Cymraeg y Flwyddyn 2022 yn yr Eisteddfod Genedlaethol, ac a gafodd ei enwebu hefyd ar gyfer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig.
Mae ‘Teimla’r Gwres’ yn glanio 2 Mai ac yn cynnwys llais syfrdanol yr anhygoel, Mared.
Mae’r trac yn gyfuniad byrlymus o guriadau dawns rhyngwladol – o French House i elfennau electronica Detroit – yn defnyddio samplau lleisiol toredig, synths a brass pwerus, a churiadau bas grymus.
Mae’r gwaith cynhyrchu’n sgleinio, yn bwerus, a’r llais yn llawn emosiwn – dyma drac sy’n gwthio cerddoriaeth Gymraeg i dir rhyngwladol newydd.
Y sengl ydy’r olaf o ragflasau’r albwm newydd, ‘Hapusrwydd yw Bywyd’, a fydd yn cael ei ryddhau ar 16 Mai.
Mae ‘Hapusrwydd yw Bywyd’ yn parhau i ddilyn trywydd diweddar yr artist, gan neidio’n ddyfnach i fyd cerddoriaeth ddawns electronig. Wrth feistroli’r grefft o recordio a chymysgu ei hun, ac wrth ddefnyddio mwy a mwy o samplau yn y traciau, mae’r sain yn symud i ffwrdd o’r naws indie, gan droi’n gryfach tuag at house, disco a cherddoriaeth glwb.
Yn driw i ethos cydweithredol Sywel Nyw, mae’r albwm yn cynnwys cymysgedd cyfoethog o leisiau – gan gyflwyno safbwyntiau ffres gan artistiaid newydd fel y nofelydd a’r bardd Megan Hunter, tra hefyd yn ail ymweld ag enwau cyfarwydd fel Iolo Selyf (Y Ffug / Cocaine Yoga).
Daw teitl yr albwm o’i drac agoriadol, sy’n cynnwys dyfyniad gan y nofelydd o Rwsia, Dostoevsky.
Mae’r dyfyniad wedi’i samplo o bregeth a draddodwyd gan y Parchedig Guto Llewelyn. “Hapusrwydd yw bywyd – gall pob munud fod yn dragwyddoldeb o hapusrwydd.” Mae’r un ysbryd yn trwytho ‘Teimla’r Gwres’ – trac sy’n llawn llawenydd, symudiad, a chariad.
Mae’r sengl a’r albwm newydd yn cael eu rhyddhau ar label Lwcus T.