Mae The Gentle Good wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 25 Ebrill, wrth i’r cerddor baratoi i ryddhau ei albwm newydd.
‘To Be in Summer’ ydy enw’r sengl newydd, a’r blas diweddaraf o’r record hir, ‘Elan’.
Portread seicedelig o Gwm Elan yng nghanolbarth Powys ydy ‘Elan’ – ysgrifennodd Gareth Bonello (The Gentle Good) yr albwm mewn bwthyn oddi ar y grid wrth iddo ymgymryd cyfnod preswyl flwyddyn o hyd ym Mynyddoedd Cambria.
Mae ‘Elan’ yn cynnwys caneuon yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn archwilio tirwedd, hanes a gwleidyddiaeth y dyffryn, a gafodd ei foddi ar ddiwedd yr oes Fictoria i greu cronfeydd ar gyfer dŵr yfed.
Mae’r drydedd sengl oddi ar yr albwm, ‘To Be in Summer’ yn ymwneud â’r syniad rhamantus o’r ddelfryd wledig, a sut y cawn ein denu i’r lleoliadau hyn, yn breuddwydio am haf diddiwedd. Mae’r gân wedi’i hysbrydoli’n rhannol gan y bardd, Percy Shelley, a gafodd ei swyno cymaint gan olygfeydd Cwm Elan, fe geisiodd ei orau i symud yno i fyw.
Daw’r teitl o’r gair Cymraeg ‘Hafod’, sy’n gysylltiedig â’r arfer traddodiadol o symud anifeiliaid i borfeydd yr ucheldir yn ystod yr haf. Roedd yr arferiad, a adnabyddir fel ‘Hafod a Hendre’ yn gyffredin am ganrifoedd yng Nghwm Elan. Bydd yr albwm newydd ‘Elan’ yn cael ei ryddhau ar 16 Mai.