Mae’r band ifanc o Gaerdydd, Taran, wedi rhyddhau eu halbwm cyntaf.
Yn Y Cymylau ydy enw record hir gyntaf y grŵp ac mae allan ar label Recordiau Jigcal.
Yn ôl y label, mae’r caneuon yn dangos datblygiad cerddorol amlwg y band ers eu EP, Dyweda, Wyt Ti…., gyda’r grŵp yn parhau i arbrofi gyda synau newydd.
Rhyddhawyd yr EP hwnnw ym mis Gorffennaf 2024, ac fe gipiodd deitl ‘Record Fer Orau’ Gwobrau’r Selar pan gynhaliwyd y gwobrau cerddorol yn gynharach yn y flwyddyn eleni
Er bod llu o steiliau gwahanol i’w clywed ar hyd yr albwm, mae sŵn roc Taran yn bresennol ym mhob cân. Mae’r naws blues-rock y 70au, sydd i’w chlywed ar draciau fel ‘Cymryd Ti Mas’ yn cyferbynnu’n grefftus â chaneuon tawelach a synfyfyriol yr albwm megis ‘Brifo Eto’ a ‘Dan y Tir’.
Tra bod chweched trac yr albwm, ‘Troi’n Aur’, yn amlygu elfen drymach, mwy egnïol y band, mae caneuon fel ‘Popeth (DDIM) Yn Iawn’ a ‘Rhy Gyflym’ yn cyfleu parodrwydd Taran i arbrofi gyda baledi a themâu sy’n ymdrin â hiraeth a gwleidyddiaeth.
“O ran perfformio, fy hoff gân i yw ‘Troi’n Aur’” eglura Rhys o’r band.
“Ni wastad yn cael pobl yn gweiddi gyda ni ac mae’r bridge wastad yn fy llenwi ag adrenalin. Rydyn ni wedi cael blwyddyn brysur gyda gigs dros Gymru a thramor.”
Yn sicr mae’r grŵp wedi cael llawer o brofiadau ardderchog yn ddiweddar, fel yr eglura aelod arall o’r band.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, dwi wedi mwynhau’r cyfle i deithio i lefydd gwahanol gyda’r band” meddai Zelda.
“Aethom ni ar daith i Lydaw i chwarae yng Ngŵyl GBB. Roedd yn grêt gallu clywed yr iaith a phrofi’r diwylliant. Da ni’n edrych ymlaen at weld yr ymateb i’r albwm.”