Peiriant ydy’r ddeuawd arbrofol Rose Linn-Pearl a Dan Linn-Pearl, ac maent yn ôl gyda’u sengl diweddaraf.
‘Pwls’ ydy enw’r trac newydd ganddynt sydd allan ar label Recordiau NAWR.
Y newyddion da pellach ydy mai ‘Pwls’ ydy’r sengl gyntaf oddi-ar albwm newydd Peiriant.
Mae Rose Linn-Pearl yn rhannu eu hamser rhwng chwarae’r fiolyn a gweithio fel milfeddyg. Ar ôl hyfforddi’n ifanc mewn cerddoriaeth glasurol a gwerin, mae wedi mynd ati i ymddiddori mewn cerddoriaeth byrfyfyr ac arbrofol.
Mae Dan Linn-Pearl yn gyfansoddwr, ac artist sain ac mae ei waith yn cynnwys cerddoriaeth roc ac electronig, gosodiad seinwedd, a gwaith ffilm arbrofol dan yr enw Deaf Pictures.
Rhyddhawyd yr albwm ‘Dychwelyd’ ganddynt yng Ngorffennaf 2024 – albwm oedd yn archwilio’r broses o ddychwelyd i’r tarddiad gyda’r Mynyddoedd Du ym Mannau Brycheiniog sy’n gosod y ffrâm i dirlun Peiriant
Bellach mae’r band yn barod i gymryd eu camau nesaf gydag albwm newydd, a ‘Pwls’ ydy’r blas cyntaf o’r hyn sydd i ddod.
Dyma gân llawn lliw sy’n gweld y ffidl yn serennu law yn llaw â’r bassline egnïol. Ar y trac mae sawl sampl slei, gan blethu sain atmosfferig nodweddiadol y ddeuawd yn gelfydd.
Enw’r albwm, sef trydedd record hir y prosiect, ydy ‘Plant’, ac fe fydd yn dilyn yn fuan yn 2026.
Wedi iddynt chwarae yng ngŵyl Y Dyn Gwyrdd a Sŵn 2025, mae ‘Pwls’ yn dynodi pennod gerddorol newydd Peiriant.
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Pwls’: