Sengl newydd Osgled

‘Paid â deud’ ydy enw’r sengl newydd gan y grŵp amgen, Osgled. 

Prosiect cerddorol y gantores a’r gyfansoddwraig, Bethan Ruth, yw Osgled ac mae’n cyfuno haenau atmosfferig gyda’i llais swynol arbrofol. 

Daw ‘Paid a Deud’ fel dilyniant i sengl gyntaf Osgled, ‘Camu yn ôl’, a ryddhawyd rai misoedd yn ôl

Mae’r sengl newydd yn gweld Bethan yn defnyddio sampl o lais ei diweddar nain ar y trac. 

“Roedd fy Nain hyfryd, Buddug Lloyd Roberts, yn gantores gwerin o’r ’60au ymlaen ac wedi rhyddhau sawl casét, recordiau a llyfrau o ganeuon gwerin Cymraeg” eglura Bethan. 

“Bu’n weithgar gyda Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru am ddegawdau fel Ysgrifennydd. Mae’n brofiad hynod arbennig cael cyd-ganu gyda pherthynas mor agos i mi ar y gân yma, geiriau gafodd ei recordio ddegawdau ynghynt.”

Byddai Buddug wedi dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed eleni, ac felly mae’r trac yn talu teyrnged iddi hi drwy samplo ei llais. 

Mae ‘Paid â deud’ allan ar label BWGiBWGAN ynghyd â fideo arbennig, wedi’i ariannu gan Gronfa Fideos PYST x S4C. Mae’r fideo wedi’i greu gan Laura Phillips. 

Dyma’r fideo:

 

Gadael Ymateb