Mae Casi wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ar label Recordiau Sain.
Mae ‘Ystrad Fflur’ yn ffrwyth cydweithio rhwng Casi a’r gantores werin Siân James.
Bu’r ddwy yn cyd-gyfansoddi’r gân, sy’n deyrnged i Abaty enwog Ystrad Fflur a’i holl hanes rhyfeddol, ac mae’r ddwy yn cyd-berfformio ar y sengl. Cyrhaeddodd Casi leoliad Ystrad Fflur ar hap a damwain rhyw bnawn a chafodd ei chyfareddu gan y lle.
“Mi ddois i sylweddoliad wedyn bod y lle wedi ysbrydoli cymaint o feirdd ar hyd y degawdau ac wedi cynnig awen i greu cymaint o gerddi, ac wrth gwrs, dyma lle claddwyd Dafydd ap Gwilym” meddai Casi.
“Mae Ystrad Fflur yn gymharol arallfydol, yn gyfrinach rywsut, ac mi anogodd y teimlad hwnnw i mi anfon neges at Siân yn holi iddi ddatblygu’r alaw efo fi.”
Nid dyma’r tro cyntaf i Casi a Siân gydweithio – bu’r ddwy yn rhan o brosiect ‘Unnos Gwerin’ BBC Radio Cymru rai blynyddoedd yn ôl gan gyd-berfformio ar y gan ‘Mynwent Eglwys’.
“Dyma sylwi bod gynon ni gymaint yn gyffredin yn gerddorol”, ychwanega Casi.
“Mae Siân yn un o gantoresau ac artistiaid mwyaf eneidiol Cymru ac felly mae hi’n bleser pur i mi gael canu efo hi.”
Recordiwyd y gân yn Stiwdio Sain, gyda Aled Wyn Hughes yn peiriannu a Casi yn cynhyrchu, ac mae’n cynnwys trefniant llinynnol gan Owain Llwyd a pherfformiadau gan y feiolinydd Jonathan Hill a’r sielydd Elin Haf Taylor.
Mae gwaith celf yr albwm wedi ei gynllunio gan Betsan Annwyl, ac yn dwyn ysbrydoliaeth o ffenestri lliw Eglwys Santes Fair, Pontrhydfendigaid.