Mae tocynnau bargen gynnar Maes B ar werth ers Dydd Gwener 12 Rhagfyr.
Roedd Maes B Eisteddfod Wrecsam yn un cofiadwy a welodd ychwanegiadau newydd i’r arlwy, gan gynnwys Sebona Fi a Garej Parwys. Yn ôl yr Eisteddfod mae’r tîm yn brysur yn paratoi am wythnos arall o gerddoriaeth fyw, DJs a phrofiadau gwreiddiol.
Gallwn ddisgwyl mwy o gyhoeddiadau yn y flwyddyn newydd, gan gynnwys y lein-yps a mwy o wybodaeth am arlwy Maes B yn ystod wythnos Eisteddfod Y Garreg Las.
Ers bore dydd Gwener 12 Rhagfyr mae tocynnau ‘bargen gynnar’ ar gyfer Maes B wedi mynd ar werth am £120, gyda rhain yn cynnwys gwersylla, mynediad i holl gigs Maes B a mynediad i brif Faes yr Eisteddfod.
Nifer cyfyngedig o docynnau sydd ar werth am y pris cynnar, ac unwaith bydd rhain wedi gwerthu bydd y pris yn codi i £130 ar gyfer y don gyntaf o docynnau.
Cynhelir Maes B 5–8 Awst fel rhan o ŵyl yr Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las a gynhelir yn Llantwd (rhwng Aberteifi a Chrymych).
Mae manylion prisiau llawn y digwyddiad i’w canfod ar wefan Maes B – https://maesb.com