Tocynnau gigs ‘Dolig 2025 Al Lewis ar werth

Mae Al Lewis wedi cyhoeddi dyddiadau ei sioe Nadolig poblogaidd yng Nghaerdydd, ynghyd â chyhoeddi bod y tocynnau ar werth.

Ers sawl blwyddyn bellach mae Al wedi bod yn cynnal sioe Nadolig yng nghwmni cyfeillion amrywiol yn Eglwys Sant Ioan yn Nhreganna, Caerdydd.

Mae’r digwyddiad wedi dod yn un o uchafbwyntiau cyfnod y Nadolig i nifer yn y brifddinas ac wedi ymestyn o un noson i ddwy.

Dywed y cerddor hoffus mai nos Wener 12 Rhagfyr a nos Sadwrn 13 Rhagfyr fydd dyddiadau’r sioe eleni ac mae’r tocynnau ar werth nawr gyda disgwyl iddynt werthu’n gyflym. 

Tocynnau nos Wener 12 Rhagfyr

Dolen i docynnau nos Sadwrn 13 Rhagfyr

 

Gadael Ymateb