Mae’r band ifanc Sir Benfro, Lafant, wedi rhyddhau eu EP cyntaf.
‘Y Fodrwy’ ydy enw’r record fer newydd sydd allan ar label Fflach Cymunedol.
Daw’r EP yn fuan ar ôl i’r triawd gyhoeddi fideo ar gyfer y trac ‘Sdim Mwg Hab Dân’ a gafodd ei ariannu gan Gronfa Fideos PYST x S4C.
Mae tyfu i fyny ar ymyl daearyddol a diwylliannol pethau wedi rhoi teimlad tra gwahanol i sain Lafant. Mae’r triawd o ogledd Sir Benfro yn cymryd ysbrydoliaeth o fandiau British Invasion y 60au a Surf Rock Americanaidd, ond hefyd o swagger Britpop ac ing grunge.
Mae eu caneuon tynn yn sail i straeon am gariad a chwant, am ffolineb ieuenctid, cenfigen a llawenydd, wedi’u canu mewn arddull sy’n nodweddiadol o’r sawl a fagwyd ym mhen draw nunlle.
Mae pedwar trac ar yr EP sy’n dechrau gyda’r gân roc fywiog ‘Y Fodrwy’ a’i dilyn gan ‘O Ddrwg i Waeth’ a ‘Sdim Mwg Heb Dân’, gan orffen gyda chyffro ‘Gweidir’. Mae EP cyntaf epig y band yn ôl eu label, yn disgleirio, yn siglo ac yn eich taro yn eich wyneb.
Recordiwyd yr EP dros ddau ddiwrnod gyda’r cerddor a’r cynhyrchydd Mike West yn ei hen gapel yn Borth, Ceredigion.
Mae’r fideo ar gyfer ‘Sdim Mwg Heb Dân’, a gafodd ei gyfarwyddo gan Lowri Page yn defnyddio stop-motion ac animeiddio arbennig ac ar gael i’w wylio ar YouTubed nawr. .
Bydd y band yn hyrwyddo’r EP dros yr haf gyda chyfres o gigs a setiau byw mewn gwyliau ledled Cymru.
Gigs Lafant Live Dates
02/05/25 – Y Seler, Aberteifi
03/05/25 – Gŵyl Fel ‘Na Mai, Crymych
16/05/25 – Clwb Ifor Bach, Caerdydd
21/06/25 – Gŵyl Fach, Aberporth
04/07/25 – Y Seler, Aberteifi
05/07/25 – Gŵyl gwrw, Crymych
07/08/25 – Caffi Maes B, Eisteddfod Wrecsam
13/09/25 – Theatr Gwaun, Abergwaun
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Sdim Mwg Heb Dân’: