Tom Macaulay a Pen Dub yn cydweithio ar sengl

Mae’r cerddor Tom Macaulay wedi cyd-weithio â’r cynhyrchydd Pen Dub ar fersiwn newydd o un o’i senglau. 

‘Yr Unig Un’ oedd ail gân Gymraeg y canwr-gyfansoddwr Tom Macaulay, sy’n wreiddiol o Ben Llŷn ond sydd wedi ei sefydlu bellach yn Ynys Môn. 

Wedi’i rhyddhau’n wreiddiol gan Tom yn 2022, roedd y sengl yn ddilyniant i’w sengl Gymraeg gyntaf, ‘Mwg Mawr Gwyn’ a ryddhawyd yn 2020. 

Cafodd ‘Yr Unig Un’ ei dewis fel ‘Trac yr Wythnos’ gan Radio Cymru ac mae Tom wedi cael ei ddisgrifio fel ‘Llais Mawr’ gan Bethan Elfyn ar BBC Radio Wales, yn ogystal â derbyn canmoliaeth gan DJs radio eraill fel Huw Stephens. 

Mae Tom wedi ailymuno â’i ffrind a chynhyrchydd, Pen Dub, i greu fersiwn newydd sbon o’i gân wreiddiol.

Mae’r gân yn adlewyrchiad ar daith bywyd, gan ganolbwyntio’n benodol ar rai profiadau personol wrth gydnabod ein bod ni ar daith bywyd gyda’n gilydd. 

Mae Tom yn dod o Abersoch ym Mhen Llyn ac mae ei ganeuon yn amrywio o ran arddull o fewn y genres amgen a’r blues gyda chaneuon a chydweithrediadau Cymraeg gyda Pen Dub bellach yn cael eu hychwanegu at ei ‘repertoire’. 

Mae’r fersiwn reggae hon o’r gân yn ail-weithred wedi ei gynhyrchu gan Pen Dub gyda trac ‘vocal’ newydd wedi’u hychwanegu gan Tom ac alaw ffidil hyfryd gan Henry Horrell, sy’n cyd-blethu â’r alaw lleisiol ac yn rhedeg drwy’r gân.

Mae Pen Dub yn gynhyrchydd a DJ Reggae a Dub o Ogledd Cymru ac yn ddiweddar mae wedi bod yn creu cryn argraff yn y sîn gerddoriaeth Gymreig diolch i gydweithrediadau hynod lwyddiannus gydag Aleighcia Scott a Morgan Elwy. 

‘Pen’ – teyrnged i’w famwlad ym Mhen Llŷn a ‘Dub’ – y prif briodoledd ym mhroses a chreu’r gerddoriaeth y mae’n ei gwneud. Mae Ben (Pen Dub) a Tom wedi adnabod ei gilydd ers pan oeddent yn eu harddegau ac mae eu cariad at gerddoriaeth yn disgleirio yn eu cydweithrediad diweddaraf ar y trac hwn, ‘Yr Unig Un’.