Malan yn rhyddhau ‘Dim Syniad’

Mae Malan, yr artist jazz-pop dalentog wedi rhyddhau ei sengl Gymraeg ddiweddaraf.

‘Dim Syniad’ ydy enw’r trac newydd ganddi sydd allan ar label Recordiau Côsh.

Mae Malan wedi gweithio’n agos gydag Ifan Sion Davies a’r cynhyrchydd Rich Roberts ar y trac diweddaraf yma ac mae Dafydd Glyn Williams hefyd i’w glywed yn chwarae piano ar y recordiad.

Daw’r sengl wrth iddi baratoi i ryddhau ei EP newydd, ‘Right Here’, ar ddydd Gwener 14 Tachwedd.