Mae’r artist ifanc o Gaernarfon, Alis Glyn, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf mewn cyfres gyda’i label newydd.
‘Y Gath Ddu’ ydy enw ei thrydedd sengl ers ymuno â label Côsh, ac mae’n ddilyniant i ‘Y Tŷ’ ac ‘Y Stryd’ a ryddhawyd yn ddiweddar.
Yn ôl ei label mae Alis Glyn wedi cyflawni camp anarferol i artist mor ifanc – yn gweithio’n galed i ryddhau corff o waith y buasai unrhyw un yn falch ohono, heb sôn am berson ifanc ’dan ddeunaw oed.
Wedi iddi ryddhau ambell i sengl ac EP chwe thrac dan ofal y cynhyrchydd, Emyr Rhys, ymunodd Alis â Côsh wedi i brif leisydd y band Gwilym, Ifan Pritchard, ei hargymell i’r label.
Ers hynny, mae Alis wedi bod yn stiwdio Rich James Roberts ym Mhenrhyndeudraeth yn recordio caneuon newydd sbon i’w rhyddhau ar Côsh.
- sen
- sin
- syn
- sŵn
- ton
- don
- hon
- lon
- yson
- suon
- sïon
- sbon
- sgon
- ïon
- eon
- oson
- San
- Non
- Anwybyddu
- Dysgu
- Nôl
- Nesaf