Alis Glyn yn rhyddhau ei sengl gyntaf ar Côsh

Yr artist ifanc addawol, Alis Glyn, ydy’r ddiweddaraf i ymuno gyda label Recordiau Côsh. 

Wrth gyhoeddi’r newyddion, mae hefyd wedi rhyddhau sengl newydd ar y label ar label sef ‘Y Stryd’. 

Er i’r gantores fod yn cyfansoddi a pherfformio ers blynyddoedd, gan hefyd ryddhau EP drwy Recordiau Aran yn 2023, mae’n anodd credu mai dim ond 17 oed ydy Alis o hyd. 

Mae bellach wedi recordio cyfres o senglau i Côsh, i’w rhyddhau yn hanner cyntaf 2025, wrth iddi edrych ymlaen at gigs yr haf. 

Gyda dawn cyfansoddi’r artist ifanc yn glir, mae Rich James Roberts wedi gwneud yn siŵr fod y cynhyrchu’n adlewyrchu positifrwydd ac egni’r gân mewn dull cyfredol a ffres.

Roedd cyfle cyntaf i glywed ‘Y Stryd’ ar y tonfeddi’n rheolaidd wythnos diwethaf gan ei fod yn Drac yr Wythnos ar BBC Radio Cymru a hefyd yn Dracboeth ar raglen Mirain Iwerydd nos Fercher cyn cael ei ryddhau ddydd Gwener diwethaf, 7 Chwefror.