Mae Alis Glyn wedi rhyddhau ei hail sengl o’r flwyddyn.
‘Y Tŷ’ ydy enw’r trac newydd ganddi sydd allan ar label Recordiau Côsh.
Mae’r sengl newydd yn ddilyniant i ‘Y Stryd’ a ryddhawyd ganddi ym mis Chwefror, a dyma’r ail sengl o dair fydd allan ganddi fydd allan ganddi cyn yr haf eleni.
Yn dilyn llwyddiant ei sengl gyntaf ar label Côsh, ‘Y Stryd’, mae’r artist ifanc o Gaernarfon wedi dychwelyd gyda thrac arall sy’n plethu jazz cynnes ac alawon hiraethus.
Wedi iddi gyhoeddi ei bod yn chwarae yn Tafwyl fis Mehefin, mae’n addo i fod yn haf disglair i’r gantores a’i band.