Albwm Gwenno Morgan ar feinyl

Mae Gwenno Morgan wedi datgelu y bydd ei halbwm newydd yn cael ei ryddhau ar feinyl, ac mae modd rhag archebu’r record nawr.

‘gwreiddiau’ fydd enw’r record hir newydd gan y pianydd talentog.

Dyma fydd ei hail albwm gan ddilyn ‘gwyw’ a ryddhawyd ym mis Ionawr 2024.

Bydd yr albwm yn cael ei ryddhau ar 18 Medi, a dywed Gwenno y bydd nifer cyfyngedig o 100 o gopïau feinyl yn cael eu rhyddhau i’r rhai sy’n ddigon cyflym i’w bachu.

Mae modd rhag-archebu’r record ar safle Bandcamp Gwenno Morgan nawr. 

Dyma’r trac ‘sglefrio’ fydd ar yr albwm:

Gadael Ymateb