Tokomololo yn cyd-weithio gyda Sage Todz a Mared

Mae’r artist electronig Tokomololo yn cael blwyddyn brysur – mwy o gigs, mwy o sylw, ac erbyn hyn ei gydweithrediad mwyaf hyd yma.

Yn syth ar ôl recordio mics ‘After Dark’ i Selector Radio, lle disgrifiodd Sian Eleri ei sain fel “enchanting”, mae’r cynhyrchydd o Fôn yn dychwelyd gyda ‘Heb Miwsig’, sengl newydd drawiadol sy’n dod â Sage Todz a Mared Williams at ei gilydd. 

Mae’r trac newydd allan ar label HOSC.

Mae ‘Heb Miwsig’ yn cyrraedd yng nghanol blwyddyn fawr i Tokomololo. Ar ôl perfformiadau cyffrous yn FOCUS Wales, Tafwyl, a Wired Wrexham, mae’n symud i mewn i haf llawn llwyfannau mawr sy’n cynnwys gig yn Sesiwn Fawr Dolgellach penwythnos diwethaf. 

Mae’r esgyniad wedi bod yn gyflym ond yn haeddiannol. 

Mae senglau blaenorol ‘Simsan’ a ‘Deffro’ wedi adeiladu cynulleidfa ffyddlon i’w gynhyrchiad gweadog ac atmosfferig, cerddoriaeth sy’n byw rhywle rhwng egni’r clwb, chwilfrydedd arbrofol a thirweddau gogledd Cymru. 

Gyda chefnogaeth radio sy’n tyfu a chalendr sy’n llenwi’n gyflym, mae ‘Heb Miwsig’ yn nodi cam arall ymlaen i un o artistiaid electronig mwyaf cyffrous Cymru.

Gigs Tokomololo: 

8 Awst – Maes B

20 Awst – Gŵyl y Dyn Gwyrdd

27 Awst – Between the Trees 

15-17 Hydref – Gŵyl Sŵn Festival 

Gadael Ymateb