Mae Ffos Goch wedi rhyddhau albwm newydd sy’n reit unigryw o’r enw ‘Gwaith Heddychlon’.
Syniad yr albwm, sy’n gasgliad o bump o draciau ydy cynnig trac sain i bobl ei ddefnyddio er mwyn ymarfer meddylgarwch.
Dywed y cerddor gweithgar fod yr albwm yn cynnwys darnau a fwriedir eu defnyddio er mwyn canolbwyntio’n ddwfn, ymarfer meddylgarwch neu ymlacio.
Ffos Goch ydy prosiect cerddorol diweddaraf y cerddor o Birmingham, Stuart Estell.
Er bod cysylltiadau Cymreig gan Stuart, dim ond yn 2019 y dechreuodd ddysgu’r iaith o ddifri ar ôl bod yn organydd i gapel Gymraeg Loveday St yn Birmingham am 18 blynedd.
Dechreuodd Ffos Goch fel prosiect ym Mehefin 2022 ond mae’r cerddor wedi bod yn hynod gynhyrchiol ers hynny gan ryddhau cynnyrch yn rheolaidd.
Daw’r casgliad meddylgarwch yn fuan iawn ar ôl iddo ryddhau ei albwm llawn cyntaf dan enw’r prosiect, sef ‘Byd Sbwriel’, a laniodd ar ddechrau mis Tachwedd 2025.
Mae’r albwm meddylgarwch newydd ar gael ar safle Bandcamp Ffos Goch.