Sengl Danny Sioned er cof am Elian

Mae’r canwr-gyfansoddwraig Danny Sioned wedi rhyddhau ei sengl newydd er cof am ei mab marw-anedig, Elian.

Rhyddhawyd ‘Yesterday’s Child’ ar 31 Rhagfyr sef y dyddiad y ganwyd Elian yn farw yn 2023.

Cyfansoddodd Danny y gân y mis Chwefror canlynol pan roedd ei phartner wedi dychwelyd i’w waith a’r tŷ yn teimlo’n dawel iawn meddai.

“Y tro cyntaf i mi berfformio hi’n gyhoeddus fe wnes i grio yr holl ffordd trwyddo. Er nad ydy hi’n gwneud i mi grio mor aml y dyddiau hyn, rwy bob amser yn ei chynnwys  hi yn fi set pan dwi’n gallu, fel ffordd o’i gadw’n fyw ac i siarad amdano” meddai’r cerddor.

“Fy ofn mwyaf ar ôl ei farwolaeth oedd y byddai’n cael ei anghofio, a’i golli mewn amser. Dwi’n defnyddio fy ngherddoriaeth fel fordd o ymdopi, ond hefyd fel ffordd o’i gofio fe.”

Mae gan Danny Sioned dudalen Just Giving sy’n codi arian er cof am Elian sy’n codi arian at elusen 4Luis, ac mae’n anfon copi o’r trac i unrhyw un sy’n cyfrannu at yr elusen. 

 

Gadael Ymateb