Ychwanegu lleoliadau Cymreig i daith Gruff Rhys

Mae Gruff Rhys wedi ychwanegu dau leoliad newydd yng Nghymru i’w restr dyddiadau gigs ym mis Ionawr.

Bydd Gruff yn perfformio yn Neuadd Gyhoeddus Bancffosfelen ar 16 Ionawr, ac yna yn Neuadd Goffa Solfach y noson ganlynol, 17 Ionawr. Ar ôl hynny bydd Gruff yn teithio i’r Alban ac Iwerddon ddiwedd y mis, cyn perfformio cyfres o gigs yn Ewrop fis Mawrth. 

Gigs Gwanwyn Gruff Rhys

21.01.26 – Glasgow, Celtic Connections

23.01.26 – Kilkenny, Set Theatre

24.01.26 – Galway, Roisin Dubh 

11.03.26 – Bologna, Covo Club

12.03.26 – Roma, Chiesa Valdese

17.03.26 – Berlin, Patchwerk Berlin

18.03.26 – Koln, die wohngemeinschaft 

20.03.26 – Antwerp, Rock Lobster

21.03.26 – Paris, L’Archipel 

23.03.26 – Utrecht, Tivoli Vredenburg 

24.03.26- Amsterdam, Tolhuistuin 

Gadael Ymateb