Blas cyntaf o albwm Huw Cadwaladr

Mae cerddor sydd wedi bod yn aelod o fandiau yn y gorffennol wedi rhyddhau ei sengl unigol gyntaf ers dydd Iau diwethaf, 9 Gorffennaf.  

‘I Believe’ ydy enw’r trac newydd gan Huw Cadwaladr sydd allan ar label Lwcus T, ac mae’n flas cyntaf o’i albwm sydd ar y gweill. 

Bydd Huw yn fwyaf adnabyddus mae’n siŵr fel aelod o’r ddeuawd electronig Carcharorion gyda Gruff Pritchard. 

“Doeddwn i erioed wedi bwriadu rhyddhau ‘I Believe’ yn gyhoeddus, ond dyma fydd y cipolwg cyntaf ar fyd Cambria Nocturna” meddai Huw wrth edrych ymlaen at yr albwm. 

“Mae’r trac yn nodi ymadawiad o’r gwaith electronig a greais i a Gruff yn flaenorol fel Carcharorion, gan symud tuag at greu caneuon gyda mwy o bwyslais ar fynegiant a geiriau. 

“Wrth esblygu’n greadigol, mae’r prosiect yn parhau i archwilio ein cariad at sain electronig sinematig trwy ddefnyddio lŵps tâp arbrofol, recordiadau maes, offeryniaeth analog, a chynhyrchu â gwead cyfoethog. 

“Wedi’i greu’n wreiddiol fel cyfansoddiad post-punk, cyn trawsnewid yn drac tecno, fe esblygodd ‘I Believe’ dros fisoedd lawer i’w ffurf derfynol — gwaith cyffesol ac emosiynol. Wedi’i recordio gan Gruff a finnau, a’i gymysgu gan Alexander Green yn The Zoo, daeth y trac yn gatalydd ac yn sylfaen greadigol ar gyfer yr hyn a fyddai’n y pen draw yn dod yn Cambria Nocturna.”

Yn ôl Huw mae ‘I Believe’ yn nodi dechrau pennod newydd: cerddoriaeth electronig emosiynol sydd wedi ei wreiddio mewn bregusrwydd, trawsnewidiad a goroesiad. 

“Daeth Cambria Nocturna ei hun i’r amlwg o gyfnod o drawma personol dwys. Yn ystod yr amser hwn, ailgysylltais â Gruff ar ôl mwy na degawd ar wahân, a gyda’n gilydd dechreuon ni arbrofi unwaith eto. Daeth yr hyn a ddechreuodd fel cydweithio artistig yn rhywbeth dyfnach: ffynhonnell o iachâd, catharsis, a gwir therapi.

“Drwy sianelu’r emosiynau hyn yn greadigol, ganwyd Cambria Nocturna — tapestri sonig o gerddoriaeth electronig atmosfferig dwfn wedi’i lunio gan emosiwn, cysylltiad dynol, a gwydnwch. 

“Drwy uno electroneg analog ag offeryniaeth acwstig, fe wnaethon ni dynnu o sbectrwm eang o ddylanwadau, yn cwmpasu trip-hop o’r 90’au, tecno, electro, Italo’r 80au, ac electronica amgen, yn gyfochrog â gwaith artistiaid fel John Cale a Nick Cave.

Mae addewid o fwy o gerddoriaeth i ddilyn yn fuan gyda’r albwm llawn i’w ryddhau yn y man. 

Gadael Ymateb