Mae un o fandiau mwyaf sefydliedig Cymru, Cowbois Rhos Botwnnog, yn paratoi i ryddhau eu sengl ddwbl fel tamaid i aros pryd nes eu halbwm nesaf fydd allan ddiwedd mis Gorffennaf.
‘Gwylio defaid o ffenast gefn y tŷ / Lino‘ ydy enw’r sengl ddwbl newydd sydd wedi’i ryddhau.
Y newyddion da pellach ydy mai blas o’r hyn sydd i ddod ar eu halbwm newydd ydy’r traciau hyn, gyda ‘Haul Bach’ i’w ryddhau ar 31 Gorffennaf.
Ar eu chweched record hir, mae ’r band o Ben Llŷn yn gwyro fwy nag erioed i ’r canu gwlad sydd wedi bod yn rhan o ’u sŵn ers y cychwyn cyntaf.
Albwm yr adferiad
Ysgrifennwyd y casgliad hwn tra bu Iwan Huws, gitarydd a chanwr y band, yn gwella yn sgil strôc a gafodd ar lwyfan Sesiwn Fawr Dolgellau yn 2024.
Bu’n ysgrifennu’n gyson drwy gydol y cyfnod anodd hwn, a bu’n rhan fawr o’i ymdrechion i wneud synnwyr o ’r digwyddiad. Er hyn, nid record drom na lleddf mo hon; dyma ddathliad o fywyd a chariad, ac i dderbyn y da â’r drwg fel ei gilydd.
Hyd y gwydda’r band, dyma’r unig record canu gwlad Gymraeg ei hiaith am gael strôc, neu unrhyw argyfwng meddygol. Mae Iwan yn gwneud yn dda, meddent, ac yn gwylio defaid o ffenestr gefn y tŷ.
Bydd yr albwm allan ar ddiwedd mis Gorffennaf a bydd taith unigol gan Iwan i ddilyn yn hwyrach yn y flwyddyn.
Bydd yr albwm ar gael ar y llwyfannau digidol arferol a Bandcamp yn unig i ddechrau, a chopïau caled ar CD a feinyl i ddilyn. Bydd y copïau CD, feinyl a Bandcamp yn defnyddio master safon uwch er mwyn cadw deinameg y recordiadau gwreiddiol.