Mae’r band poblogaidd o Fȏn, Calfari, wedi cyhoeddi eu bod nhw nôl yn gigio ar ôl cyfnod i ffwrd o’r llwyfan.
Bydd y band yn perfformio yn y Bull Inn, Llanerchymedd ar 4 Medi eleni, sef eu gig cyntaf ers sawl blwyddyn..
A hwythau wedi ffurfio yn 2014, llwyddodd Calfari i ddenu tipyn o ddilyniant yn gyflym gan lwyddo hefyd i gipio gwobr ‘Record Fer Orau 2015’ Gwobrau’r Selar am yr EP ‘Nôl ac Ymlaen’.
Cyhoeddodd y band eu bod am chwalu yn 2018, cyn dod nol at ei gilydd yn ddiweddaraf. Er hynny, dyma fydd eu gig cyntaf ers 2022. Bydd cefnogaeth ar y noson gan Cordia a Glain Rhys.
Mae tocynnau’r gig ar werth nawr.
Dyma Calfari’n perfformio yng Ngwobrau’r Selar ddeng mlynedd yn ôl yn 2016: