Mae trefnwyr Gŵyl Tawe wedi cyhoeddi manylion y rhaglen lawn ar gyfer y digwyddiad fydd yn cael ei gynnal ar safle Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe ar ddydd Sadwrn y 6 Mehefin.
Mae’r rhaglen gerddoriaeth fyw yn cychwyn am 12:15 ar lwyfan y Taliesin yn yr Ystafell Ocean gyda set gan y band ifanc o Gaerfyrddin, Coron Moron. Wedi’i ffurfio yn 2024 i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn, fe wnaethon nhw ryddhau eu sengl gyntaf, ‘Cawl’, sy’n dathlu daioni bwyd iachus, cyfeillgarwch a chymuned yn 2025.
Mae’r gerddoriaeth fyw yn rhedeg am yn ail rhwng Llwyfan y Taliesin a Llwyfan Cymru Greadigol yng ngardd yr amgueddfa, gan gynnwys set gan westeion arbennig Carwyn Ellis & Rio 18.
Yn cloi Llwyfan y Taliesin bydd Cowbois Rhos Botwnnog – band gwlad/gwerin/roc amgen sy’n cynnwys y tri brawd Iwan, Aled a Dafydd Hughes, ynghyd â lein-yp o gerddorion eraill sy’n cylchdroi.
Yn cloi’r ŵyl ar lwyfan Cymru Greadigol bydd Gwenno a’r band. Mae Gwenno Saunders wedi bod yn gweithio fel cerddor a chynhyrchydd proffesiynol ers dros 25 mlynedd ac yn 2025 rhyddhaodd Gwenno ei phedwerydd albwm unigol, ‘Utopia’, ar Heavenly Recordings.
Yn camu i lwyfan Cymru Greadigol cyn Gwenno fydd Melin Melyn, sy’n dychwelyd i Abertawe wedi dwy sioe llawn dop yn lleoliad y Bunkhouse. Mae eu halbwm cyntaf ‘Mill on the Hill’ yn gweld y band yn neidio rhwng roc syrffio, canu gwlad, prog-roc a seicedelia gyda steil a sgil band sydd eisoes wedi rhyddhau nifer o recordiau, wedi’u plethu gan egwyddor thematig ddychmygus.
Mae’r lein-yp cerddorol llawn ar draws y ddau lwyfan hefyd yn cynnwys Candelas, Cerys Hafana, Chwaer Fawr, Griff Lynch, Melys, a Mwsog. Mae’r amserlen lawn a rhagor o wybodaeth ar gael nawr trwy wefan Menter Iaith Abertawe.