Wrth baratoi i ryddhau eu halbwm newydd ym mis Ebrill, mae’r band o’r Felinheli, Achlysurol, wedi rhyddhau eu trydedd sengl fel tamaid i aros pryd.
‘Cysgod y Dail’ ydy enw’r sengl ddiweddaraf sydd allan drwy Recordiau Côsh.
Dyma’r blas olaf o’u halbwm cyntaf ‘Noson Braf i Fynd Am Dro’ cyn ei ryddhau’n llawn ar 17 Ebrill.
Mae’r sengl yn dilyn y senglau blaenorol ‘Pan Mae’r Haul yn Machlud’ ac ‘Unwaith’ a gafodd dderbyniadau cynnes, ac yn cyrraedd ar gefn ymddangosiad teledu nodedig ar Heno S4C, lle rhoddodd y band berfformiad acwstig cofiadwy o’u sengl gyntaf i’r genedl.
‘Mae Noson Braf i Fynd Am Dro’ yn albwm traddodiadol gyda naratif yn rhedeg drwyddo o’r dechrau i’r diwedd. Mae rhifyn finyl cyfyngedig wedi’i gynllunio i gyd-fynd â sioe i lansio’r albwm ar ddechrau mis Mai.
Gallwch ddysgu mwy am yr albwm wrth ddarllen y cyfweliad gydag Achlysurol yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar.