Y ddeuawd o Aberteifi, Chwaer, oedd enillwyr Gwobr Goffa Richard a Wyn, Ail Symudiad yn gynharach ym mis Chwefror.
Dyfarnwyd hefyd mai Manon Music oedd enillydd Gwobr Kevin, sef y wobr ar gyfer artistiaid unigol.
Cynhaliwyd noson cystadleuaeth Gwobrau Coffa Ail Symudiad yng Nghanolfan Hermon ar nos Sadwrn 6 Chwefror, a hynny am y bedwaredd flwyddyn.
Trefnwyr Gŵyl Fel ‘Na Mai sy’n gyfrifol am drefnu’r gystadleuaeth, a bydd cyfle i’r ddau enillydd berfformio ar un o lwyfannau’r ŵyl ar 2 Mai.
Yn ȏl y trefnwyr roedd safon yr holl berfformwyr, a ddaeth o bell ac agos, yn arbennig iawn ac fe gafodd pob un ganmoliaeth uchel gan y beirniaid.
Y beirniaid eleni oedd Einir Dafydd, Steffan Rhys Williams ac Emyr Siôn. Cleif Harpwood oedd yn arwain y noson.