Cyflwyno prosiect DAGRAU

Mae’r cynhyrchydd a chyfansoddwr Llion Robertson wedi cyflwyno ei brosiect diweddaraf wrth ryddhau sengl newydd. 

DAGRAU ydy enw’r prosiect newydd gan y cynhyrchydd amlwg, sy’n gyfarwydd hefyd fel aelod o’r bandiau Siula a Cotton Wolf. 

Wrth ddatgelu DAGRAU mae wedi rhyddhau’r sengl ‘Angen’ sy’n ei weld yn cyd-weithio gyda’r rapiwr o Arfon, Sage Todz.   

Mae’r prosiect newydd hwn yn nodi pennod greadigol newydd i Llion – gofod i arbrofi ac archwilio synau a syniadau nad ydynt bob amser yn ffitio o fewn ffiniau ei waith cynharach. 

Wedi’i ddylanwadu gan ddiwylliant clwb a chaneuon mwy personol, mae cydweithio wrth wraidd y prosiect.

Mae’r trac ‘Angen’, wedi’i gyd-ysgrifennu gyda kts_had_enough, sef Katie Hall o’r band Chroma, ac yn cynnwys y rapiwr, Sage Todz. 

Daw’r sengl allan ar label Recordiau Libertino, ac yn ôl y label, gyda DAGRAU, mae Llion Robertson yn agor pennod unigryw sydd llawn syniadau cerddorol newydd sbon.

Dyma fideo ‘Angen’ sydd wedi’i ffilmio a golygu gan Nic Finch: