Crwban yn rhyddhau fersiwn amgen o drac Y Reu

Mae’r artist electronig gweithgar, Crwban, wedi rhyddhau ei fersiwn house newydd o drac poblogaidd gan y band o Ddyffryn Nantlle Y Reu. 

‘Mhen i’n Troi’ ydy’r trac dan sylw, ac mae’r fersiwn newydd allan ers dydd Gwener diwethaf, 24 Ebrill.

Crwban ydy prosiect electro Math Llwyd, sy’n gyfarwydd hefyd fel aelod o fand Y Reu. 

Mae Crwban yn dod â naws hollol newydd i’r gân ‘Mhen i’n Troi’. Mae’r sengl ganddo’n fersiwn house electronig sy’n troi’r gân adnabyddus yn ddarn i ni gyd ddawnsio iddi.

Mae’r prosiect yn dangos ochr arall i waith Crwban: ochr sy’n mwynhau siapio sain, arbrofi gyda thôn, ac ail-ddychmygu traciau mewn ffordd sy’n teimlo’n naturiol ac yn greadigol. 

Mae’r ail-gymysgiad yn cynnig ffordd newydd i wrando ar “Mhen i’n Troi”, gan agor y drws i gynulleidfa ehangach.

Dyma’r fersiwn newydd o ‘Mhen i’n Troi’:

 

Gadael Ymateb