Ar ôl cryn ddyfalu, daeth y newyddion o’r diwedd bod Super Furry Animals yn mynd i fod yn perfformio ar Lwyfan y Maes yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Bydd y gig ar nos Sadwrn gyntaf yr Eisteddfod, 1 Awst a dyma fydd y tro cyntaf i’r band berfformio yn yr Eisteddfod ers 30 o flynyddoedd.
Mae aelodau’r band nôl yn gigio gyda’i gilydd eleni gyda thaith ‘Supacabra’ ym mis Mai, sy’n ymweld â Dulun, Glasgow, Llandudno, Caedydd, Manceinion a Llundain.
Maen nhw hefyd wedi cadarnhau y byddan nhw’n perfformio mewn nifer o sioeau dros yr haf sy’n cynnwys Gwyl Werin a Chelfyddydau Moseley a Gwyl End of the Road ym mis Medi.
Wedi dweud hynny, bydd gig yr Eisteddfod yn unigryw gan mai dyma fydd eu hunig gig cyfan gwbl Gymraeg o’r flwyddyn.
Bydd cefnogaeth gan Mellt, Pys Melyn ac Ynys ar y noson. Mae tocynnau i’r maes ar ddiwrnod y gig ar werth nawr am £25.