Am yr ail flwyddyn yn olynol, Buddug oedd prif enillydd Gwobrau’r Selar a gynhaliwyd yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth ar nos Sadwrn 21 Chwefror.
Enillodd yr artist o Frynrefail dair gwobr sef ‘Cân Orau’ am y trac ‘Disgyn’, ‘Artist Unigol Gorau’ a ‘Fideo Cerddoriaeth Gorau’ hefyd am y fideo ar gyfer ‘Disgyn’.
Mae’r gwobrau diweddaraf yn ychwanegiad i’r pedair gwobr a enillodd yng Ngwobrau’r Selar llynedd.

Roedd yn noson dda hefyd i’r band o ardal Y Bala, Mynadd, a gipiodd y wobr am y Gwaith Celf Gorau; Martha Elen a hawliodd deitl y ‘Band neu Artist Newydd Gorau’; a Rh Jorj a ddaeth i’r brig yn y bleidlais am y ‘Record Fer Orau’ am ei EP ‘Amser’.
Roedd yn noson arwyddocaol i’r cerddor Dafydd Owain wrth iddo hawlio’r teitl am y ‘Record Hir Orau’ am ei ail albwm unigol, ‘Ymarfer Byw’.
Cyfartal am wobr y prif fand
Pleidlais gyhoeddus sy’n dewis enillwyr deg o gategorïau’r gwobrau, ac er bod cannoedd wedi bwrw pleidlais roedd yn amhosib gwahanu Bwncath a Pys Melyn yng nghategori’r ‘Band Gorau’ gan olygu bod y ddau fand o’r gogledd yn rhannu’r wobr.

Roedd gwobr ‘Seren y Sin’ i Rose Datta, prif ganwr y band Taran ac enillydd cyntaf cyfres Y Llais ar S4C, tra bod y cyhoedd hefyd wedi dewis Gŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd fel ‘Digwyddiad Byw Gorau’ 2025.
Mae dau gategori sy’n cael eu dewis gan dîm golygyddol Y Selar, sef Gwobr 2025 a ddyfarnwyd i’r cynhyrchydd Don Leisure, ynghyd â’r ‘Wobr Cyfraniad Arbennig’ a roddwyd i’r rapiwr a bîtbocsiwr rhyfeddol, Mr Phormula, neu Ed Holden.
Roedd y digwyddiad yn dychwelyd i Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, sef lleoliad Gwobrau’r Selar rhwng 2015 a 2020, am y tro cyntaf ers y pandemig eleni a chafwyd noson gofiadwy.

“Roedd hi’n grêt i fod nôl yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth eleni, ac roedd hi’n noson ardderchog” meddai Owain Schiavone, Uwch Olygydd Y Selar.
“Pleidlais gyhoeddus sy’n dewis enillwyr y mwyafrif o’r categorïau wrth gwrs, felly mae’r rhestr enillwyr yn adlewyrchiad o’r hyn mae’r cyhoedd, y bobl sy’n mynd i’r gigs ac yn prynu’r gerddoriaeth, yn ei werthfawrogi.
“Er bod Buddug wedi cael noson ardderchog eto’n cipio tair gwobr, roedd tipyn o amrywiaeth ymysg yr enillwyr eraill ac mae hynny’n adlewyrchu amrywiaeth a bywiogrwydd y sin ar hyn o bryd. Yn bersonol, roedd yn braf iawn gallu rhoi’r wobr Cyfraniad Arbennig i Ed Holden, sy’n berson a cherddor dwi’n ei edmygu’n fawr, ac sydd wedi gwneud cyfraniad amhrisiadwy dros y chwarter canrif diwethaf.”
Enillwyr Gwobrau’r Selar 2025
Gwaith Celf Gorau (noddir gan Y Lolfa)
Adra – Mynadd
Artist Unigol Gorau (noddir gan Calendr360)
Buddug
Band neu Artist Newydd Gorau (noddir gan Brifysgol Aberystwyth)
Martha Elen
Band Gorau (noddir gan Rownd a Rownd)
Pys Melyn a Bwncath
Cȃn Orau (noddir gan PRS for Music)
Disgyn – Buddug
Digwyddiad Byw Gorau (noddir gan Technegol)
Tafwyl
Seren y Sin (noddir gan Heno)
Rose Datta
Fideo Cerddoriaeth Gorau (noddir gan Lingo Newydd)
Disgyn – Buddug
Record Fer Orau
Amser – Rhi Jorj
Record Hir Orau (noddir gan PYST)
Ymarfer Byw – Dafydd Owain
Gwobr 2025
Don Leisure
Gwobr Cyfraniad Arbennig (noddir gan Dydd Miwsig Cymru)
Mr Phormula, Ed Holden