Cyfnod newydd i Bethzienna wrth iddi ymuno â Recordiau Côsh

Mae’r artist a ddaeth i’r amlwg ar gyfresi talent teledu, Bethzienna, yn dechrau ar gyfnod newydd gyda’i sengl ddwbl Gymraeg newydd. 

‘Creep / Dacw ‘Nghariad’ ydy’r sengl ddwbl gan Bethzienna sydda allan ers 17 Gorffennaf. 

O gyrraedd rownd derfynol Wowffactor i greu argraff enfawr ar The Voice UK, mae rhyddhau’r traciau yn gweld Bethzienna yn camu i bennod newydd gyda’i chynnyrch cyntaf ar label Recordiau Côsh.

Mae Bethzienna yn adnabyddus am ei llais cryf, ei steil sinematig a’i hud ar lwyfan. Daeth i sylw cenedlaethol ar The Voice UK, gyda Jennifer Hudson a Sir Tom Jones yn ei chefnogi. Mae eu deuawd ‘Cry To Me’ bellach wedi denu dros 2.5 miliwn o wrandawyr, gyda’r ddau yn ailuno ar gyfer perfformiad terfynol y gyfres.

Wedi’i magu yn Barri ac wedi’i llunio gan draddodiadau cerddorol Cymru, mae dylanwadau Bethzienna yn ymestyn o blues a soul i eiconau fel Shirley Bassey, Elvis Presley ac Ella Fitzgerald. Yn gynnar yn ei gyrfa, cyrhaeddodd rownd derfynol Wowffactor, perfformio ar draws Ewrop gyda Popty, ac yna rhyddhau caneuon gwreiddiol Cymraeg tra’n dal yn ei harddegau.

Yn ogystal â’i gwaith cerddorol, mae Bethzienna wedi meithrin gyrfa actio sylweddol gyda rolau yn Skins, Our Girl, Warren, We Hunt Together ac yn fwy diweddar Casualty. 

Mae ei gwaith llwyfan wedi derbyn canmoliaeth gan The Guardian am ei hymddangosiad cyntaf yn The Assassination of Katie Hopkins ac am ei pherfformiad trawiadol yn Tales of the Brothers Grimm.

Fel cyfansoddwraig, mae wedi cydweithio â Nik Kershaw, Gary Clark a Mark Nevin drwy encilion canu Chris Difford, ac ysgrifennodd y gân ‘Welcome Home’ ar gyfer elusen Never Such Innocence – a recordiwyd yn Abbey Road ac a gyrhaeddodd rownd gynderfynol Britain’s Got Talent.

Mae Bethzienna hefyd yn sylfaenydd The Sing It Out Project, sy’n defnyddio cerddoriaeth a mynegiant creadigol i feithrin hyder, lles ac ymdeimlad o gysylltiad ymhlith pobl ifanc a chymunedau sy’n aml yn teimlo heb lais.

Mae ‘Creep / Dacw ’Nghariad’ yn agor pennod newydd i Bethzienna – cyfuniad o blues, soul, trefniannau cerddorfaol a’i sinemaig unigryw sy’n creu byd sain hollol ei hun.

Gadael Ymateb