Mae basydd enigmatig y band Adwaith, Gwenllian Anthony wedi rhyddhau ei sengl unigol gyntaf dan yr enw Gwen.
‘Achub yr Iaith’ ydy enw’r sengl newydd ganddi sydd allan ar label Libertino.
I gyd-fynd â’r sengl, mae fideo ar gyfer ‘Achub Yr Iaith’, sydd wedi’i gyfarwyddo gan Louis O’Hara a Gwenllian ei hun hefyd wedi’i gyhoeddi ar-lein.
Mae’r sengl a fideo yn nodi dechrau di-ofn ar gyfnod Gwen fel artist unigol. Dyma’r cipolwg cyntaf i’w hunaniaeth feiddgar, ddigyfaddawd sy’n hawlio holl sylw Gwenllian wrth i Adwaith gymryd seibiant wedi blynyddoedd prysur a llwyddiannus iawn.
Dros y ddegawd ddiwethaf gydag Adwaith, bu Gwenllian yn graidd i un o rymoedd creadigol cerddoriaeth Gymraeg. Gyda thri albwm llwyddiannus (Melyn, Bato Mato a SOLAS), teithiau o amgylch Prydain, Ewrop, Gogledd America a Siberia bell, adeiladwyd eu henw da â gwaith caled gan greu cyfleoedd lle nad oedd llawer a gwrthod derbyn rhwystrau.
Bu i Gwenllian hefyd arbrofi gyda phrosiect cerddorol arall, sef Tacsidermi, gyda’r offerynwr Matthew Kilgariff yn 2020 gan ryddhau cwpl o senglau gwych.
Iaith greadigol naturiol
Wedi’i hysgrifennu wrth deithio ar draws Ewrop yn ystod haf 2025 a’i chwblhau yng Ngorllewin Cymru gyda Tim Lewis (Coil, Spiritualized), a’r cynhyrchydd a chydweithiwr hirdymor Steffan Pringle, mae ‘Achub Yr Iaith’ yn nodi’r tro cyntaf i Gwenllian ysgrifennu a gwireddu cyfanwaith ar ei phen ei hun yn llwyr.
Wrth ymddiried yn llwyr yn ei greddf, mae Gwen wedi creu sain sy’n pontio arbrofi blaengar Kim Gordon a Björk, rhyddid rythmig Lizzy Mercier Descloux a CAN, a phwysau diwydiannol ymdrochol Nine Inch Nails a Massive Attack. Mae elfennau electronig minimal yn cyfuno â rhythmau hypnotig, egnïol ac ysgrifennu emosiynol ac agored.
Yn wraidd i’r cyfan mae’r Gymraeg – nid fel rhywbeth sydd angen ei egluro, ond fel iaith greadigol naturiol y gerddoriaeth.
Nid ymwneud â gwarchod y Gymraeg yn unig y mae ‘Achub Yr Iaith’. Mae’n ymwneud ag amddiffyn creadigrwydd ei hun. Drwy gydol ei gyrfa, mae Gwenllian wedi herio’n gyson y misogynedd sy’n ceisio bychanu creadigrwydd, uchelgais a chyflawniadau menywod. Yn hytrach na chanolbwyntio ar y negatifrwydd hwnnw, mae ‘Achub Yr Iaith’ yn ei drawsnewid yn rhywbeth llawn gobaith. Mae’n ddatganiad o’r hyn y mae hi wastad wedi ei gredu ynddo: pŵer creadigrwydd, iaith a dychymyg.
Adennill y naratif
“Daeth ‘Achub Yr Iaith’ o flynyddoedd o glywed pobl yn egluro llwyddiant Adwaith gyda phopeth ac eithrio ein gwaith caled” eglura Gwenllian.
“Roedd hyd yn oed ‘conspiracy theories’ yn awgrymu ein bod yn cael ein hariannu gan Lywodraeth Cymru i ledaenu’r iaith, fel pe bai hynny’n esbonio ein llwyddiant. Roedd hynny’n anwybyddu’n llwyr y blynyddoedd a dreuliwyd yn cyfansoddi, yn teithio ac yn gwthio ffiniau ein creadigrwydd, gan awgrymu ein bod ond wedi llwyddo gan ein bod yn canu yn y Gymraeg.
“Mae’r gân hon yn ceisio adennill y naratif hwnnw. Mae’n ein hatgoffa bod talent, dyfalbarhad a chred bob amser yn bwysicach na’r rhagdybiaethau y mae eraill yn eu gwneud amdanoch chi.”
Mae ‘Achub Yr Iaith’ yn ddatganiad cyntaf pwerus gan artist sy’n cofleidio rhyddid creadigol llwyr. Mae Gwen yn cyrraedd gyda gweledigaeth sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i iaith yn unig, tuag at y dychymyg cyffredin sy’n ein cysylltu ni oll.
Bydd cyfle i weld Gwen yn perfformio’n fyw ei sioe unigol gyntaf yng Ngŵyl y Dyn Gwyrdd, ar ddydd Sul 23 Awst ar lwyfan y Walled Garden.
Dyma’r fideo ar gyfer ‘Achub yr Iaith’: