Fideo cerddoriaeth ar gyfer y gân ‘Llinyn Arian’ gan Alis Glyn ydy’r diweddaraf i’w gyhoeddi ar lwyfannau digidol S4C Miwsig.
Dyma’r trydydd fideo cerddoriaeth cyfoes newydd mewn cyfres o 10 sy’n cael eu cyhoeddi gan S4C rhwng dechrau Gorffennaf a 3 Medi eleni.
Sam Rhys James sydd wedi cyfarwyddo’r fideo ar gyfer ‘Llinyn Arian’ ac mae’r gwaith cynhyrchu gan Dewi Meirion.