Mae’r ddeuawd ifanc o Aberteifi, Chwaer, wedi rhyddhau eu EP cyntaf ers dydd Gwener diwethaf, 24 Gorffennaf.
‘Y Storm’ ydy enw’r record fer newydd sydd allan ar label Fflach Cymunedol.
Gydag ‘Y Storm’, mae Chwaer – sef y chwiorydd Emma a Lucy Warhurst-Davies – wedi creu casgliad o ganeuon sydd ar y naill llaw y tu hwnt i’w hoedran ac ar y llall yn llawn torcalon ac ofnau bywyd yn eich arddegau.
Mae’r EP yn cynnwys eu sengl gyntaf ‘Paid Troi Dy Gefn’ ynghyd â’r trac teitl ‘Y Storm’, y baled piano ‘Dan Ddŵr’ a’r diweddglo epig ‘Dyma’n Byd’. Mae’r casgliad hwn o ganeuon yn crynhoi cyfeiriad y band am y dyfodol – baledi piano beiddgar, di-ofn yn datgan eu gwirionedd yn ddewr gyda lleisiau llawn, perffaith.
Yn sefyll yn betrusgar ar gopa ansicr rhywle rhwng cymoedd cerddoriaeth werin a phop siambr, mae sain Chwaer wedi datblygu dros y flwyddyn ddiwethaf i fod yn glorwth o harmonïau dwfn, hyderus, drymiau byrlymus a phiano pwerus.
Gan ganu deuawdau mewn ffordd na all ond chwiorydd ei wneud, gyda’r emosiwn na all ond bywydau pobl ifanc ei ddatgan, mae eu epics piano yn ddarnau gweledol, cyffrous, diolch yn rhannol i’w cyflwyniad diffuant, llawn calon, wedi’i atgyfnerthu gan eu chwarae medrus nhw a’u band.
Gweithiodd y band gyda’r cynhyrchydd-gerddor Reuben Wilsdon-Amos ar yr EP, gyda’r aml-offerynnwr yn ymuno â’r drymiwr Sam Howell ar y record ac mewn perfformiadau byw.