Cyhoeddi manylion leinyp Gŵyl Canol Dre

Mae trefnwyr Gŵyl Canol Dre yng Nghaerfyrddin, sef Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr, wedi cyhoeddi manylion yr arlwy gerddorol ar gyfer y digwyddiad eleni. 

Cynhelir Gŵyl Canol Dre ym Mharc Myrddin, Caerfyrddin, ers sawl blwyddyn bellach ac mae’r ŵyl deuluol wedi tyfu i fod yn ddigwyddiad poblogaidd iawn. 

Dyddiad y digwyddiad eleni fydd dydd Sadwrn 11 Gorffennaf gydag adloniant a gweithgareddau amrywiol rhwng 11am a 9pm. 

Un o’r uchafbwyntiau ydy’r prif lwyfan sy’n cynnwys cymysgedd o berfformiadau cerddorol. Ac mae’r arlwy gerddoriaeth sydd wedi ei ddatgelu ar gyfer 2026 yn siŵr o blesio’r gynulleidfa. 

Y prif enw i’w ddatgelu ydy’r triawd pop poblogaidd, Eden. Yr enw mwyaf arall ar y poster ydy Mei Gwynedd fydd yn gwneud set o ganeuon gyda’i fand Tŷ Potas. 

Bydd y band lleol o Sir Gâr, Dros Dro, yn perfformio hefyd ynghyd â’r grŵp o Aberystwyth, Mellt. I gadw’r ddesgl yn wastad rhwng siroedd yr hen Ddyfed, bydd Lowri Evans o Sir Benfro yn perfformio ar y dydd yn ogystal. 

Band arall sydd bob amser yn codi hwyl, ac sy’n siŵr o wneud hynny yng Ngŵyl Canol Dre hefyd ydy Pwdin Reis, tra bod y bandiau lleol Alys a’r Tri Gŵr Noeth a Coron Moron yn sicr o gael croeso cynnes. 

Mae mynediad i Gŵyl Canol Dre am ddim, ond mae’r digwyddiad yn codi arian tuag at Ymchwil Cancr Cymru eleni gyda chyfleoedd i wneud cyfraniadau ymlaen llaw ac ar y diwrnod. 

 

Gadael Ymateb