Mae sengl ddiweddaraf Mali Hâf yn gweld y gantores yn plethu gwleidyddiaeth a chelf mewn amser hanfodol i Gymru.
‘Cymru Knockin’ ydy enw’r trac diweddaraf i’w rhyddhau fel sengl gan yr artist pop gweithgar.
Daw’r sengl yn dynn ar sodlau ei EP, ‘Miwsli’, a ryddhawyd ar 20 Mawrth.
Mae Mali wastad wedi caru’r dyfyniad gan Nina Simone: “It’s an artist’s duty to reflect the times.”
Wrth i etholiadau Cymru agosáu ym mis Mai, a sgyrsiau pwysig yn digwydd ledled y wlad, cafodd Mali ei hysgogi i ymateb yn greadigol.
Er nad yw’n ystyried y gân yn ddatganiad gwleidyddol arferol, mae Mali’n credu bod modd archwilio gwleidyddiaeth drwy gelf – drwy chwarae, chwilfrydedd, a herio syniadau mewn ffordd sy’n creu lle diogel i fyfyrio. Dyna’r un math o le mae hi’n gobeithio y bydd ei cherddoriaeth yn ei greu i wrandawyr.
Y tu allan i’r byd cerddoriaeth, mae Mali wedi gweithio fel gweithiwr cymunedol yng nghanol Caerdydd. Trwy’r profiad hwnnw mae hi wedi gweld yn uniongyrchol sut mae penderfyniadau gwleidyddol yn siapio bywydau bob dydd pobl, ac mae’r profiadau hynny wedi dylanwadu’n dawel ar safbwynt y gân.
Mae ‘Cymru Knockin’ yn fwriadol agored i’w ddehongli, ond yn ei hanfod mae’n annog Cymru a’r gwrandawyr i feddwl am ei gilydd – ein cymdogion, ein teuluoedd, a hyd yn oed y dieithriaid rydym yn eu pasio bob dydd. Beth allwn ni ei wneud i gryfhau ein cymunedau, nid er ein lles ein hunain? Wedi’r cyfan, mae ychydig ohonom ni ym mhawb arall.
Yn ddiweddar, mae Mali hefyd wedi cael ei hysbrydoli gan y grŵp Gwyddelig ‘Kneecap’ – eu sain, eu neges, a’r hyder maen nhw’n ei ddangos wrth fynegi pwy ydyn nhw. Fel artist sy’n creu drwy’r Gymraeg, mae eu dewrder wedi bod yn ysgogiad mawr.
Ysgrifennwyd y gân gyda’r cynhyrchydd Don, ac roedd y ddau’n teimlo cyffro gwirioneddol drwy gydol y broses. Mae’r trac yn nodi dechrau partneriaeth greadigol newydd, gyda mwy o gydweithio ar y gweill.
Mae fideo wedi’i gyhoeddi i gyd-fynd â’r sengl, gyda’r gwaith ffilmio gan Yasmine Abdullah.