EP cyntaf Connemara

Mae’r band ifanc o Lŷn, Connemara wedi rhyddhau eu EP cyntaf. 

‘Be Wan?’ ydy enw’r record fer sydd allan  drwy SOŴND, gan ddilyn eu sengl ‘Diwylliannau’ a ryddhawyd ddechrau’r mis. 

Mae SOŴND yn brosiect a label recordiau annibynnol sydd wedi’i eni allan o CellB ym Mlaenau Ffestiniog.

“Dim jyst cyfle i recordio ydi o, ond musical journey – pedwar diwrnod i jamio, recordio a datblygu’r tiwns a’r band fel unit” meddai Rhys o CellB.

“Recordio  band, yn old skool  Dim cut & paste, dim cheatio! Os ti methu chwara fo fyw mewn un take. Da ni ddim recordio fo. Perfectly imperfect!” 

“Mae ’na gymaint o dalent ifanc yn y Gogledd gwledig sy disgyn allan o radar y diwydiant cerddoriaeth. Mission SOŴND ydi rhoi’r cyfle i fandiau ifanc recordio a rhyddhau eu tiwns, gan gadw 100% o berchnogaeth eu cerddoriaeth.”

Connemara ydi’r band cyntaf i fynd drwy’r profiad – pum trac mewn pedwar diwrnod. Dyma SOŴND VOL. I a dechrau pennod newydd i gerddoriaeth annibynnol o’r Blaenau.

“Oedd recordio efo SOŴND yn brofiad hollol wahanol i be oedden ni wedi arfer efo” meddai Deio o Connemara.  

“Pedwar diwrnod yn CellB, jest ni fel band yn jamio, gweithio ar y tiwns yn nos yn hostel cellb a recordio nhw’n fyw twy dydd. oeddo’n brofiad mor cwl a sa ni heb gael cyfle fel huna fel arall”

“Oedd o’n intense ar adegau, ond dwi’n meddwl bod ni wedi dod allan ohono fo’n fand llawer tynnach. Natho ni ddysgu lot am ein gilydd fel cerddorion, a dwi’n meddwl bod hynny i’w glywed ar yr EP. Mae’r pum trac yn dal yr egni oedd yn yr ystafell, efo’r holl imperfections bach sy’n gwneud o’n real.”

“Mae SOŴND wedi rhoi cyfle i ni wneud record go iawn a byw, cysgu a gweithio fel team , a rŵan da ni jest isho cael cymaint o gigs a posib i dangos ir byd pwy ydi Connemara.”

Dyma ‘Dy Adael Di Am Byth’ o’r EP:

 

Gadael Ymateb