Pumed albwm Georgia Ruth yn glanio

A hithau wedi cynnig blas o’r hyn sydd i ddod gyda dwy sengl ddwbl dros y misoedd diwethaf, mae albwm newydd Georgia Ruth bellach wedi’i ryddhau. 

Mae Georgia Ruth wedi bod yn llais unigryw ym myd cerddoriaeth Gymreig ers blynyddoedd. 

Gan ysgrifennu a pherfformio yn Gymraeg ac yn Saesneg, mae wedi ennyn sylw wrth greu gwaith atmosfferig, llawn emosiwn â ffocws ar dirwedd, cof a hunaniaeth. Mae ei gwaith blaenorol wedi ennill clod a nifer o enwebiadau am wobrau, gan sefydlu ei lle fel un o artistiaid cyfoes mwyaf cymhellol Cymru. 

Ar ei phumed albwm, mae’n estyn gwahoddiad i ymuno â hi yn Uncanny Valley, lle mae’r cyfarwydd yn dechrau teimlo’n rhyfedd, a lle mae cysur cartrefol yn cael ei gysgodi gan deimladau anesmwyth.

Mae’r record wedi’i wreiddio yn ei chartref, yn dilyn symud o Aberystwyth i ardal dawel ar gyrion gwledig y dref. Wrth fyfyrio ar y faestrefiaeth newydd hon, mae Georgia yn archwilio’r tensiwn rhwng cysur domestig ac ymdeimlad ehangach o ansefydlogrwydd gwleidyddol ac emosiynol. Fel mam i dri o blant, mae’n cyfleu’r ddeuoliaeth hon yn eglur, gan olrhain y cydbwysedd bregus rhwng diogelwch ac ofn.

Mae baledi alt-country yn cyd-fyw â phop siambr y trac teitl, gan ddangos dimensiwn newydd i waith y gyfansoddwraig. Wedi’i ysbrydoli gan ffilmiau a rhaglenni teledu’r 00au cynnar (American Beauty, Mulholland Drive, Ally McBeal) – a dyfodiad hwyr, ‘ugain mlynedd yn rhy hwyr’ i The Sopranos (a wyliodd pob pennod yn olynol tra’n feichiog gyda’i thrydydd plentyn) – mae’r albwm yn sinematig ac yn hiraethus.

Mae’r tŷ ei hun yn ganolog i’r caneuon. Wrth gadw addurn gwreiddiol y perchnogion blaenorol, mae’n bodoli fel rhyw fath o time warp, yn gysurus ac anghysurus ar yr un pryd. Mae’r lleoliad hwn yn siapio geiriau’r albwm – manylion rhyfedd yn llechu yn y clustogau, y carpedi, ac yn y rhosod sy’n tyfu y tu allan i’r drws – ac yn ei fyd gweledol; mae ffotograffau Abby Poulson, a dynnwyd yn y tŷ, yn creu awyrgylch cynnil, Lynch-aidd lle mae’r cyffredin yn teimlo’n dawel swreal. 

Mae’r barcud coch – sy’n frodorol i ganolbarth Cymru – yn bresenoldeb ysbrydol drwy’r record gyfan, yn hongian uwchben yr ystâd dai fel arwydd o rywbeth i ddod. Er hyn, wrth i’r albwm ddod i ben, mae’r geiriau olaf – ‘I can see the stars here’ – yn aros yn y cof, gan adael ymdeimlad tawel o heddwch.

Gan ddychwelyd i stiwdio Sain yng Ngogledd Cymru, recordiodd Georgia â’r band sy’n ymddangos ar ‘Cool Head’ o 2024 – mae Gruff Ab Arwel, a drefnodd y llinynnau ar yr albwm hwnnw, yn troi tuag at y synth a’r allweddellau, tra ychwanegodd Gavin Fitzjohn (Paolo Nutini, Manic Street Preachers) drefniannau pres yng Nghaerdydd. Mae plant Georgia – Owen, Idris ac Alma – hefyd yn ymddangos ar yr albwm, gan ganu ar ‘Thema Alma’ – hwiangerdd fyrfyfyr sydd wrth galon y record.

Cynhyrchwyd yr albwm gan Georgia gyda’i chydweithiwr hirhoedlog Iwan Morgan, a chafodd ei gymysgu gan TJ Allen (Bat for Lashes, Portishead, Anna Calvi), sy’n dod â sglein unigryw i’r caneuon.

Dyma fersiwn o ‘Dal ’ma Alma’ o raglen Stiwdio 24/7 ar S4C:

Gadael Ymateb