Mae’r band poblogaidd o Fon, Fleur de Lys wedi rhyddhau eu sengl newydd ers dydd Gwener 12 Mehefin.
‘Lemonêd’ ydy enw’r trac newydd a dyma eu sengl gyntaf ers haf llwyddiannus y llynedd – haf a wthiodd y band i fod yn un o brif fandiau Cymru!
Cafodd y gân ei hysgrifennu a’i recordio gyda Rich James Roberts yn Studio Ferlas, Penrhyndeudraeth.
Mae’r sengl yn cyrraedd wrth i Fleur De Lys baratoi ar gyfer haf prysur arall, gyda phrif slotiau yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Maes B, a Sesiwn Fawr Dolgellau.
Gyda’r momentwm yn parhau, mae ‘Lemonêd’ yn agor pennod newydd i un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru.