Mae’r band bywiog o Sir Gâr, Pwdin Reis, wedi rhyddhau eu sengl newydd.
‘Paid Ti’ ydy enw’r cynnig diweddaraf ganddynt sydd allan ers 12 Mehefin, ond a fydd eisoes yn gyfarwydd i lawer wedi iddi gael ei pherfformio’n fyw mewn gigs niferus dros Gymru gyfan.
Pwdin Reis ydy’r casgliad o gerddorion profiadol Betsan Haf Evans (llais), Neil Rosser (gitâr), Rob Gillespie (Drymiau) a Norman Roberts (bas dwbl).
Mae’r band yn gyfarwydd am eu dull unigryw o osod storïau am wendidau dynol i gerddoriaeth egnïol Rockabilly.
“Mae’r cân yn sȏn am fachan sy’n brolio’n ddi-ddiwedd am arian, un o gâs bethau ni’r Cymry” meddai Betsan am y sengl newydd.
“Mae dywediadau fel “lot o fflash a dim cash” neu “lot o swanc a dim yn y banc” yn brawf o hyn.”
Dyma fersiwn fideo stiwdio o’r sengl: