Mae Gai Toms wedi rhyddhau ei sengl ddwbl newydd ers dydd Gwener diwethaf, 30 Hydref.
Wedi eu hysgrifennu yn ystod cyfnod clo y pandemig, dyma deyrnged gerddorol a phersonol i gariad, colled, a’r ysfa am oleuni yn y tywyllwch.
Mae’r gwaith wedi ei ysbrydoli gan alar, atgofion sinematig, a harddwch nefol y Gomed NEOWISE.
‘Radar’ a ‘Seren Wib’ ydy enwau’r traciau a ddaw oddi ar albwm nesaf Gai, ‘Y Filltir Gron’. Bydd yr albwm yn dilyn ar Recordiau SBENSH ar ddiwedd mis Tachwedd.
Ysgrifennwyd y caneuon yn ystod clo mawr 2020, yn dilyn colli ei fam i COVID-19. Mae’r ddwy gân yn cyfleu emosiynau cymhleth profedigaeth, gan archwilio’r ysfa am gysylltiad, cariad a llusern yn y fagddu fawr.
Mae ‘Radar’ yn deyrnged i ffilmiau mawr y 1970au a’r 80au, gan gynnwys Star Wars, E.T. a Superman, tra hefyd yn cydnabod y Coliseum – yr hen sinema ym Mhorthmadog. Gan gyfuno elfennau hiraethus â sci-fi retro, mae’r trac yn tynnu ar y bydau sinematig sy’n llunio ein hatgofion, ac yn cynnig ryw ddihangfa pan fydd pethau yn anodd.
Mewn cyferbyniad, mae ‘Seren Wib’ yn tynnu ar ysbrydoliaeth o ymddangosiad Comed NEOWISE ym mis Gorffennaf 2020. Mae hon yn fynegiant cerddorol haniaethol o gariad diamod mam, yn ogystal a llanw a thrai galar, ei ddwysedd cyfnewidiol, ei eiliadau o dawelwch, a’r fflachiadau annisgwyl o harddwch na wyddwn ei fod yn bosib mewn cyfnod o golled.
Galwad ysbrydol
Ers ddyddiau Anweledig a Mim Twm Llai, nid yw Gai Toms ofn arbrofi gydag arddulliau cerddorol. Dyma sŵn newydd eto i arlwy y cyfansoddwr o Stiniog, gyda’r ukelele, melodeon a synths retro yn wead sonig i’r cwbl. Ac wrth gwrs, geiriau gonest a theimladwy i werthfawrogi’r profiad yn llawn.
Mae’r albwm, sydd wedi’i ohirio ers amser maith, yn gorff o waith a luniwyd mewn cyfnod eithriadol a myfyriol o golled bersonol. Nid ailymweld â’r gorffennol fel petai, ond mwy fel galwad i roi i’r caneuon hyn, a’r emosiynau sydd wrth wraidd y caneuon, mewn lle maent yn ei haeddu.
“Mae ‘Y Filltir Gron’ wedi bod yn segur ers dros 5 mlynedd bellach, ond rywsut dw’i wedi llwyddo ei atgyfodi” eglura Gai Toms.
“Cefais dôn o alar drostaf yn ddiweddar, fel petai’n alwad ysbrydol i gwblhau’r gwaith.”
“Pa adeg gwell na Chalan Gaeaf a thymor yr Hydref i ryddhau? Yn ogystal â’r themâu galar, mae yna agwedd yma tuag at y llain denau rhwng y byw a’r meirw hefyd. Swatiwch a gwrandewch yn astud.”
Ni fydd taith i gyd-fynd a’r sengl na’r albwm, gan eu bod ar gyfer profiad gwrando yn unig, gan wahodd gwrandawyr i ymgolli yn y gerddoriaeth a’i dirlun emosiynol.
Er hynny, mae Gai Toms yn agored i berfformio a siarad mewn nosweithiau ‘acwstic’ agos atoch, a/neu drafodaethau neu sesiynau yn ymwneud a galar a cholled. Bydd gig arferol yn parhau gydag ambell gân yn rhan o’r set.