A hwythau newydd ryddhau ei halbwm cyntaf, mae’r ddeuawd newydd, Madryn, wedi cyhoeddi fideo ar gyfer un o’u traciau ar-lein.
Madryn ydy’r ddeuawd werin Gymraeg Elin Hâf Madden a Tegid Rhys Williams a ‘Rhywbeth yn Rhywle’ ydy enw eu halbwm a ryddhawyd yn gynharach ym mis Hydref.
Nawr maent wedi cyhoeddi fideo cerddoriaeth swyddogol ar gyfer y trac sy’n rhannu enw’r record hir hefyd.
Mae’r gân yn myfyrio ar y newidiadau sy’n digwydd o’n cwmpas a’r ffyrdd rydym yn ceisio gwneud synnwyr ohonynt, meddai’r ddeuawd.
Mae’r fideo wedi’i greu gan Katherine Betteridge.