Gwep yn cyhoeddi manylion EP 

Mae’r band o Gasnewydd, Gwep, wedi cyhoeddi manylion eu EP cyntaf.

‘Tarw’ ydy enw’r record fer fydd allan ar 7 Rhagfyr diolch i Fflach Cymunedol.  

Yr hyn sy’n gyrru Gwep ydy cael eu hadnabod fel y band iaith Gymraeg cyntaf o Gasnewydd. 

Mae’r cyfuniad o ddylanwad bandiau fel Mellt, Y Cyrff a’r Furries, ochr yn ochr â’r graean a’r hunaniaeth gerddorol amrywiol sy’n nodweddu’r ddinas Ddwyreiniol, yn rhoi dyfnder i sŵn Gwep a llais amlwg i’w geiriau. Mae eu cynllun pendant o goncro’r byd oherwydd y ffactorau hyn yn eu gwneud yn rym newydd cyffrous.

Mae eu EP cyntaf, ‘Tarw’, yn ymdrin â thensiynau ôl-ddiwydiannol eu cartref, tra’n myfyrio’n ofalus ar y broses o aeddfedu. Gan gredu’n gryf mewn ethos DIY, mae sŵn ‘lo-fi’ Gwep wedi arwain atynt yn cael eu cymharu â Silver Jews a chyfnod cynnar Pixies.

Hunaniaeth pobl Casnewydd

Mae Gwep yn fand dwyieithog sydd wedi sefydlu eu hunain fel band roc amgen slacyr, ac maent yn prysur wneud eu marc.

Ffurfiwyd y band yn wreiddiol o dan yr enw Yr Argraff pan oedd yr aelodau’n 17 oed. 

Ers ffurfio y llynedd, maent wedi cofleidio’r hunaniaeth ôl-ddiwydiannol sydd wedi’i wreiddio yn eu hardal leol. Mae eu treftadaeth yn eu hysgogi i archwilio tir newydd, wrth i’w EP sydd ar ddod gyflwyno eu myfyrdodau – yn Gymraeg ac yn Saesneg – i gynulleidfaoedd amrywiol Cymru.

‘Tarw’ yw’r EP cyntaf gan y band ac mae’r enw yn awgrymu delwedd o darw mewn siop lestri. Mae’r EP yn chwarae’n glyfar â’r cysylltiadau hynny; mae’n cynnwys egni bywiog ac ifanc, ond ar yr un pryd, mae’n ymddangos fel gwaith aeddfed a chytbwys. Cafodd teitl yr EP ei ysbrydoli gan chwedl sylfaenol eu tref enedigol, sy’n sôn am ychen wyn yn dynodi’r lle cysegredig ar gyfer adeiladu eglwys Sant Gwynllyw. I’r band, mae’r tarw yn symbol o fytholeg a diwydiant, ac mae’n rhan annatod o’u hunaniaeth fel pobl o Gasnewydd.

Wedi’i recordio’n fyw mewn un take gyda’r cynhyrchydd Emyr Sion yn ei stiwdio gartref, Parlwr Llaeth, mae’r pedair cân, tair yn Gymraeg, un yn Saesneg, yn sigledig, yn arw, ac yn felancolig. 

Mae’r ddau gitâr, y drymiau egnïol a’r llinellau bas grymys yn sail i leisiau cyferbyniol Bryn Geary a Bowen Barklam; llais y naill yn fariton aeddfed annisgwyl, sy’n aml yn gwrthdaro â’r sain llawn gofid ac anesmwythyd, tra bod y llall yn cynnig arddull uniongyrchol, tebyg i gerddoriaeth punk.

Mae sain y band yn ymdebygu i Pale Saints, cyfnod cynnar y Manics, Ash, Hum, Pixies, Silver Jews, ac efallai hyd yn oed Turnstile; i gefnogwyr cerddoriaeth Gymraeg, meddyliwch am Mellt, Hyll, Y Cyrff, a Slate.

Gitars sy’n gwrthdaro ac yn anghytuno; llais bariton Bryn Geary (sy’n dwyn i gof Morrissey); adran rythm egnïol gyda Taylor Pope ac Emily Williams; ac awyrgylch emo llawn anesmwythyd, diolch i gitâr arweiniol Bowen Barklam a’i gyfraniad lleisiol.

Cadw elfen byw

“Gan ein bod eisiau cadw sain yr ystafell ymarfer, recordiwyd yr EP yn fyw, o’r dechrau i’r diwedd mewn un cymrydiad” meddai cynhyrchydd yr EP, Emyr Sion, sydd hefyd yn aelod o Los Blancos. 

“Mae’r broses gynhyrchu yn canolbwyntio ar ddefnyddio meicroffonau pell yn yr ystafell i ddal yr awyrgylch a’r teimlad sy’n cysylltu amrywiaeth eclectig o ganeuon â’i gilydd. 

“Y nod oedd creu un darn o waith, lle mae un gân yn llifo i’r nesaf ar draws yr holl draciau offerynnol, gan gadw elfen y perfformiad byw.” 

“Cafodd y traciau eu recordio’n uniongyrchol o’r consol – gan gynnwys unrhyw amherffeithrwydd – er mwyn aros yn driw i’w sain wreiddiol. Yn hytrach na cheisio sgleinio popeth, y canlyniad yw casgliad amrywiol o ganeuon sydd, serch hynny, yn rhannu cefndir nodedig, ‘creg’ ac agored; cefndir sy’n gweithredu fel sylfaen i felodïau gitâr cymhleth sydd wedi’u cydamseru’n fanwl.”

Bydd yr EP allan ar 7 Rhagfyr a bydd Gwep yn lansio’r record yn y lleoliad chwedlonol ‘Le Pub yng Nghasnewydd ar y 19 Rhagfyr, gyda chefnogaeth gan Luned Elwyn.

Gadael Ymateb