Mae un o fandiau mwyaf Cymru, Candelas, wedi rhyddhau eu halbwm diweddaraf.
‘Pop Cymraeg’ ydy enw’r record hir newydd gan y band o ardal Y Bala, ac mae allan ar label I KA CHING
Bu Candelas yn un o fandiau mwyaf dylanwadol Cymru dros y ddegawd diwethaf, a ‘Pop Cymraeg’ ydy eu pedwerydd albwm llawn.
Ers sefydlu eu hunain fel un o fandiau Cymraeg mwyaf llwyddiannus a phwysig eu cenhedlaeth, mae Candelas wedi treulio dros ddegawd yn llunio sain a hunaniaeth cerddoriaeth gyfoes Cymru.
Dros bedwar albwm, perfformiadau mewn gwyliau di-ri a rhai o’r sioeau byw mwyaf cofiadwy yn hanes diweddar cerddoriaeth Gymraeg, mae’r band wedi creu etifeddiaeth sy’n parhau i daro deuddeg gyda chynulleidfaoedd ledled Cymru a thu hwnt.
Dychwelodd y band gyda’r sengl ‘Pop Cymraeg’ ar ddiwedd mis Gorffennaf eleni – eu sengl gyntaf ers blwyddyn. Cafwyd hefyd perfformiad yn cloi Tafwyl o flaen torf enfawr yng Nghastell Caerdydd ynghyd â slots hedleinio ar Lwyfan y Maes a Maes B yn Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las.
Cafwyd ail sengl i gynnig blas, ‘Dwynwen’, yn mis Medi a nawr, mae’r band bellach wedi datgelu’r albwm newydd yn ei chyfanrwydd.
Neidio i fyd pop
‘Pop Cymraeg’ yw datganiad mwyaf uchelgeisiol a hyderus Candelas hyd yma, gan bortreadu band sy’n parhau i ddatblygu’n greadigol tra’n aros yn driw i’r egni, gonestrwydd a’r grefft o gyfansoddi alawon sydd wedi eu gwneud yn un o grwpiau mwyaf poblogaidd Cymru.
“Pop Cymraeg oedd y teitl ddaeth yn amlwg i ni gyd, ac y cytunwyd arno’n syth,” meddai Osian Huw Williams, prif ganwr a gitarydd Candelas.
“Mae’r teitl yn dod o’r sengl o’r un enw, sydd yn gân wleidyddol yn y bôn am annibyniaeth. Ond mae’n gân y gall pobl wrando arni a chymryd rhywbeth hollol wahanol ohoni hefyd. Dyna oedd yn apelio atom wrth ei defnyddio fel teitl yr albwm.
“Mi ydan ni’n fand trwm ar adegau, ond yn sicr yn neidio i fyd pop ym mhob cân, felly roedd o’n teimlo fel y teitl perffaith.”
Wrth sôn am themâu’r albwm, eglura Osian bod ‘cariad’ yn thema amlwg.
“Does dim un thema benodol yn rhedeg drwy Pop Cymraeg, ond y thema amlycaf yw cariad” meddai.
“Mae’r albwm yn dilyn y daith o ddod allan o berthynas, mynd drwy gyfnodau anodd a dod o hyd i hapusrwydd newydd. Mae’r amseroedd isel a’r uchafbwyntiau i’w clywed drwy’r gerddoriaeth.”
Lansiad yn Theatr Derek Williams
I ddathlu rhyddhau’r albwm, bydd Candelas yn cynnal gig lansio arbennig yn Theatr Derek Williams, Y Bala, ar 28 Tachwedd, gyda chefnogaeth gan TewTewTennau.
Dyma fydd y cyfle cyntaf i ddilynwyr y band brofi caneuon ‘Pop Cymraeg’ yn fyw. Mae Theatr Derek Williams wedi’i lleoli yn Ysgol Godre’r Berwyn, yr union ysgol uwchradd lle cyfarfu aelodau’r band am y tro cyntaf. Gan eu bod ar fin dathlu ugain mlynedd ers dod at ei gilydd, mae’r lleoliad yn gwbl addas i nodi’r daith hyd yma.
Mae rhyddhau ‘Pop Cymraeg’ yn cynrychioli pennod bwysig arall yn stori band y mae ei effaith ar gerddoriaeth Gymraeg yn amhosibl ei anwybyddu. Degawd o gigs arwyddocaol, pedwar albwm i’w henw, ac mae Candelas yn profi yr un mor berthnasol, uchelgeisiol a hanfodol ag erioed.
Dyma’r fideo ar gyfer y sengl ‘Dwynwen’: